Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2017 fel cofnod cywir. Materion a
godwyd: Cofnod 15 -
Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2016/17 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
(PSOW) Yn dilyn
cyfarwyddyd gan y pwyllgor, roedd y Swyddog Monitro wedi siarad â Swyddfa
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn cael arweiniad ar faint o fanylion
y gellid eu cyflwyno i'r Pwyllgor Safonau mewn perthynas â chwynion. Dywedodd y
Swyddog Monitro fod awdurdodau eraill wedi gofyn am arweiniad tebyg. Roedd y
tabl cwynion yn nes ymlaen ar yr agenda. Efallai bydd mwy o arweiniad i ddod. Cofnod 16 -
Llyfr Achosion Côd Ymddygiad Yn ogystal â'r
uchod, roedd y Swyddog Monitro wedi ysgrifennu at y PSOW mewn perthynas â'r 2
achos y teimlwyd y dylent fod wedi'u cyfeirio'n ôl at y Pwyllgor Safonau, am eu
bod yn wreiddiol wedi ystyried ceisiadau am oddefebau
i'r cynghorwyr dan sylw. Roedd yr Ombwdsmon wedi ymateb gan ddweud yn anffodus na allai ehangu ar yr achosion hyn, fodd bynnag, roedd ffeithlen Budd y Cyhoedd wedi'i chyhoeddi ar ddiwedd mis Rhagfyr er mwyn bod o gymorth yn hyn o beth. Dosbarthwyd copi i aelodau'r pwyllgor. |
|
Cofnodion: Yn dilyn
cymeradwyaeth ac anogaeth gan y Pwyllgor Safonau, roedd y Swyddog Monitro wedi
ysgrifennu at glercod yr holl Gynghorau Tref/Cymuned i'w gwahodd i fabwysiadu'r
arweiniad ar gyfer y Protocol Penderfynu Lleol Enghreifftiol a ddarperir gan Un
Llais Cymru. Darparodd y
Swyddog Monitro restr o'r ymatebion a dderbyniwyd gan Gynghorau
Tref/Cymuned. Roedd 18 o 24 o Gynghorau
Tref/Cymuned wedi mabwysiadu'r protocol.
Byddai 3 yn trafod y protocol yn eu cyfarfod nesaf, nid oedd gan 1
ohonynt (Cyngor Cymuned Llangynydd, Llanmadog a Cheriton) gynlluniau i'w
fabwysiadu ac roedd 2 (Cyngor Cymuned Tre-gŵyr a Chyngor Cymuned Penrhys) heb ymateb eto. Dilynodd
trafodaeth ynghylch pam nad oedd gan Gynghorau Cymuned Llangynydd, Llanmadog a
Cheriton unrhyw gynlluniau i fabwysiadu'r protocol. Roeddent wedi mynegi gan
fod ganddynt weithdrefn gwynion ddigonol ac nid oeddent fel arfer yn derbyn
llawer o gwynion, nid oeddent yn tybio bod angen protocol pellach ar yr adeg
hon. Penderfynwyd: 1)
Y
dylid nodi'r adroddiad; 2) Y dylid darparu rhestr wedi'i diweddaru yn y cyfarfod nesaf. |
|
Llyfr Achosion Côd Ymddygiad. PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y
Swyddog Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' i ddiweddaru'r Pwyllgor Safonau ar Lyfr Achosion Côd
Ymddygiad yr Ombwdsmon. Roedd y Llyfr
Achosion y cyfeiriwyd ato'n cynnwys achosion ar gyfer
y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi 2017 - Rhifyn 14 Tachwedd 2017. Amlinellodd sawl
achos yn y Llyfr Achosion, gan gynnwys yr achos a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu
Cymru. Penderfynwyd: 1)
Y
dylid nodi'r adroddiad; 2) Y dylai'r Swyddog Monitro anfon y Llyfr Achosion at yr holl gynghorwyr, ynghyd â'r ddogfen benderfyniad y cyfeiriwyd ati yn achos Panel Dyfarnu Cymru y cyfeiriwyd ato ar dudalen 13 y pecyn agenda. |
|
Torri Côd Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). PDF 94 KB Cofnodion: Darparodd y
Swyddog Monitro restr o gwynion. Adroddwyd am yr
wybodaeth i'r pwyllgor yn flaenorol, fodd bynnag ôl-ddyddiwyd yr wybodaeth i 4
Mai 2017 er mwyn darparu'r wybodaeth ychwanegol y gofynnodd y Pwyllgor amdani
yn ei gyfarfod diwethaf. Byddai'r Swyddog
Monitro'n diwygio'r tabl yn y dyfodol pe bai'r arweiniad gan y PSOW yn caniatáu
hynny. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Diweddariad am Gynhadledd y Pwyllgor Safonau. (Ar Lafar) Cofnodion: Rhoddodd y
Swyddog Monitro'r diweddaraf ar lafar am y Gynhadledd Safonau a gynhaliwyd ar
14 Medi 2018 ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddai presenoldeb a threfniadau eraill yn cael eu trafod ymhellach unwaith y byddai manylion ychwanegol yn cael eu derbyn. |
|
Cynllun Gwaith 2017-2018. Cofnodion: Awgrymodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid cychwyn y cyfarfodydd ag Arweinwyr
y Grwpiau Gwleidyddol yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer mis Ebrill 2018. Awgrymodd y
pwyllgor hefyd y byddai'n fuddiol gwahodd rhywun o swyddfa'r PSOW i ddod i
gyfarfod yn y dyfodol i drafod: ·
Llwyth
gwaith y PSOW, gan gynnwys y strwythur, y staffio, rheolaeth ei swyddfa etc., ·
Rôl
bresennol y Pwyllgor Safonau, ac yn bwysicach, ei rôl yn y dyfodol, ei lwyth
gwaith a sut mae'n rhan o'r broses gyffredinol. Penderfynwyd: 1)
Y
dylid nodi'r cynllun gwaith; 2) Y byddai'r Swyddog Monitro'n siarad â Swydda'r PSOW er mwyn gwahodd cynrychiolydd i gyfarfod o'r Pwyllgor Safonau yn y dyfodol. |