Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  (01792) 636923

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Croeso a Chyflwyniadau.

Cofnodion:

Dechreuodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu Michaela Jones a Mike Lewis, y ddau aelod annibynnol newydd i'r pwyllgor, a chafwyd cyflwyniadau gan bawb a oedd yn bresennol.

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Hale ddiddordeb personol yng nghofnod rhif 13 "Cofnodion" gan fod ei gais am oddefeb wedi cael ei ystyried yn y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2017.

13.

Cofnodion pdf eicon PDF 116 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod

blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir.

14.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2016-2017. pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Pwyllgor Safonau ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

Byddai'r Cadeirydd yn cyflwyno adroddiad i'r cyngor yn ei gyfarfod ar 26 Hydref 2017.

 

Penderfynwyd y byddai Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2016-17 yn cael ei gymeradwyo a'i drosglwyddo i'r cyngor er gwybodaeth yn amodol ar newid paragraff 10.1.

15.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau - Cyhoeddus Cymru 2016-2017. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' i'r Pwyllgor Safonau ar adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2016/17.

 

Nododd y pwyllgor fod yr Ombwdsmon wedi canfod bod nifer y cwynion ynghylch y côd ymarfer wedi gostwng 14% sy'n galonogol. Serch hynny byddai'r pwyllgor yn monitro ffigurau Abertawe dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i sicrhau na cheir tuedd ar i fyny.

 

Gofynnodd y pwyllgor hefyd am yr achosion a dynnwyd yn ôl o ran Cyngor Cymuned y Mwmbwls gan fod y rhif i weld yn uchel iawn.  Roeddent hefyd yn teimlo er mwyn gwella safonau cynghorwyr y byddai'n ddefnyddiol cael mwy o wybodaeth am natur y cwynion a wnaed. 

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1)              Nodi'r adroddiad;

2)              Trefnu bod y Swyddog Monitro'n cysylltu â'r Ombwdsmon i gadarnhau faint o fanylion y gellir eu darparu i'r Pwyllgor Safonau o ran cwynion.

 

16.

Llyfr Achosion Côd Ymddygiad. pdf eicon PDF 91 KB

Rhifyn 13 – Gorffennaf 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' i roi’r diweddaraf i’r Pwyllgor Safonau am Lyfr Achosion Côd Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Roedd y Llyfr Achosion yn cynnwys y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2017 - rhifyn 13, Gorffennaf 2017.

 

Amlinellodd y crynodebau o'r achosion ar dudalennau 134 a 135 yn y pecyn agenda lle ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o dor achosion ac nid oedd angen gweithredu ar yr achosion ar dudalennau 136-137.

 

Teimlai'r pwyllgor o ran achosion 2 a 3 Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Saltney y dylai'r achosion hyn fod wedi cael eu cyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor Safonau gan ei fod wedi ystyried y ceisiadau gwreiddiol am oddefebau o ran y cynghorwyr dan sylw.  Gofynnodd y Pwyllgor i'r Swyddog Monitro a fyddai'n fodlon ysgrifennu at yr Ombwdsmon i fynegi ei bryderon.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Dylid nodi'r adroddiad;

2)              Dylai’r Swyddog Monitro ysgrifennu at yr Ombwdsmon i amlinellu'r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Safonau.

17.

Torri Côd Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Darparwyd rhestr o gwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) mewn perthynas â thorri'r Côd Ymddygiad gan y Swyddog Monitro.

 

Teimlai'r pwyllgor yr hoffai gael mwy o wybodaeth am natur y cwynion sy'n cael eu derbyn.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

18.

Cynllun Gwaith 2017-2018.

Cofnodion:

Amlinellodd y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr eitemau ychwanegol canlynol i'r cynllun gwaith:

 

·                 Cyfarfodydd gydag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol, Cadeiryddion Pwyllgorau, Cynghorwyr Meinciau Cefn a Chlercod/Cadeiryddion Cynghorau Cymuned/Tref;

·                 Y diweddaraf am Gynghorau Cymuned/Tref sydd wedi mabwysiadu'r Protocol Anghydfodau Lleol;

·                 Unrhyw ddogfennau ymgynghori sy'n ymwneud â phwerau'r Ombwdsmon ynghylch materion y côd ymddygiad.

 

 

19.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhelliad yr adroddiad ar y sail ei/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

20.

Ceisiadau am Ollyngiad.

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried cais am oddefeb mewn perthynas â'r cynghorydd canlynol:

 

i)                S J Gallagher

 

Wrth ystyried caniatáu goddefebau, rhaid i'r pwyllgor gydbwyso budd y cyhoedd wrth atal aelodau â budd rhagfarnol rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau, yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau a gymerir gan grŵp cynrychioladol o aelodau'r awdurdod.

 

Bydd methu caniatáu goddefeb sy'n golygu na fydd cworwm gan awdurdod neu bwyllgor, yn gallu bod yn sail i ganiatáu goddefeb.

 

i)        Penderfynodd y Pwyllgor Safonau roi goddefeb i'r Cynghorydd S J  Gallagher dan baragraffau 2(d) a Rheoliadau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 (fel a ddiwygiwyd), fel a ganlyn:

 

Aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig o ran materion sy'n ymwneud ag Addysg.

 

Ni fydd yr oddefeb yn gymwys os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i fab ac sy'n benodol iddo.