Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2015-2016. PDF 118 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgor Safonau. Disgrifia’r adroddiad
y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau ac Is-bwyllgor Safonau’r Cynghorau
Cymuned/Tref o fis Mehefin 2015 i fis Mai 2016. PENDERFYNWYD y dylid cyflwyno'r adroddiad i'r cyngor ar 28 Gorffennaf 2016, yn amodol ar gywiriadau argraffyddol bach y diwygir paragraff 9.1 a) i gynnwys y ffaith bod y Pwyllgor Safonau yn credu bod prawf newydd dau-gam yr OGCC yn ei gwneud hi’n anodd iawn ymchwilio i unrhyw beth, ac eithrio'r achosion mwyaf difrifol. |