Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol Jill Burgess yn gadeirydd.

 

(BU JILL BURGESS YN LLYWYDDU)

 

11.

Ethol Is-gadeirydd.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol Margaret Williams yn is-gadeirydd.

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau.

13.

Cofnodion pdf eicon PDF 66 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod

blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2016 a'r Pwyllgor Safonau Arbennig a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2016 a'u cymeradwyo'n gofnodion cywir.

14.

Adroddiad a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2015-2016. pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/y Swyddog Monitro'r diweddaraf i'r pwyllgor am gwynion Côd Ymddygiad a gafwyd yn Adroddiad a Llythyr Blynyddol 2015-2106 yr Ombwdsmon.

 

Amlinellodd hi fod yr Ombwdsmon, yn ei 10fed adroddiad blynyddol, wedi ailbwysleisio'i fwriad y bydd, yn ei gyfnod yn y swydd, yn ymdrin â materion sy'n peri pryder go iawn, nid cwynion pitw am gôd ymddygiad cynghorwyr.  Felly, mae'n poeni'n arbennig y bu cynnydd o 19% yn nifer y cwynion am y côd ymddygiad.  Gellir priodoli hyn yn llwyr i'r cynghorau cymuned a thref, lle cynyddodd cwynion 49%.

 

Ar ben hynny, mae'r prawf dau gam newydd a gyflwynwyd wedi cynorthwyo'r Ombwdsmon wrth ymdrin â' cwynion hyn yn effeithiol.

 

Aeth hi ymlaen i fanylu ar y 5 pwnc y cafodd yr Ombwdsmon y nifer uchaf o gwynion amdanynt a datryswyd y mwyafrif helaeth ohonynt ar ôl trafodaeth gychwynnol, h.y. dim tystiolaeth prime facie o dorri'r côd neu nid oedd y toriad yn ddigon difrifol i warantu ymchwiliad.

 

Tynnwyd sylw hefyd at y dadansoddiad ystadegol o ganlyniadau fesul awdurdod lleol yn Atodiad C.

 

Hefyd, nododd yr Ombwdsmon y canlynol yn ei lythyr: “Rwy'n hollol ymwybodol bod yr etholiadau lleol ar fin cael eu cynnal ac, yn hanesyddol, dyma'r adeg pan geir cynnydd yn nifer y cwynion am gôd ymddygiad yn erbyn aelodau'r awdurdod lleol. Rwyf wedi siarad o'r blaen am gwynion blinderus a byddwn yn dra siomedig gweld cynnydd mewn cwynion am faterion pitw dros y 12 mis nesaf pan fyddaf, yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, yn ymdrin â materion o bryder go iawn ar draws gwasanaethau cyhoeddus yn fy awdurdodaeth.”

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

15.

Llyfr Achosion Côd Ymddygiad. pdf eicon PDF 49 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/y Swyddog Monitro adroddiad “er gwybodaeth” mewn perthynas â Llyfr Achosion Côd Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2016 a Llyfr Achosion yr Ombwdsmon Gorffennaf 2016.

 

Amlinellodd y Llyfr Achosion Côd Ymddygiad 4 achos, yr oedd pob un yn ymwneud â chynghorau cymuned/tref, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb a pharch.

 

Amlinellodd hefyd 3 achos lle mae'r Ombwdsmon wedi defnyddio'r prawf 2 gam a phenderfynu nad oedd angen gweithredu.

 

Trafododd y pwyllgor sesiynau hyfforddi côd ymddygiad a ddarperir i'r holl gynghorwyr yn dilyn etholiadau llywodraeth leol ac a gynigir hefyd i gynghorwyr cymuned/tref trwy'r Fforwm Cynghorau Cymuned/Tref.

 

Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynllun yr ymgymerir ag ef ar hyn o bryd gan Academi Cymru a fyddai'n defnyddio llwyfan e-ddysgu'r GIG mewn perthynas ag e-ddysgu ar gyfer holl staff y sector cyhoeddus, cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig.  Mae'n debyg y byddai'r cynllun yn cael ei gyflwyno mewn pryd ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017. 

16.

Presenoldeb mewn Cyfarfodydd Cyngor Cymuned/Tref gan Aelodau y Pwyllgor Safonau - Protocol. pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd arweiniad i aelodau'r Pwyllgor Safonau y dylent fynd i gyfarfodydd Cynghorau Cymuned/Tref ac arsylwi arnynt.

 

Roedd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wedi cysylltu â nifer o awdurdodau Cymru er mwyn cael gwybod sut roeddent wedi ymdrin â'r fath bresenoldeb.  O ganlyniad, roedd “Presenoldeb yng Nghyfarfodydd Cynghorau Cymuned/Tref gan Aelodau'r Pwyllgor Safonau – Protocol” wedi'i ddrafftio, a oedd yn amlinellu'r cylch gwaith, y cwmpas a'r weithdrefn ar gyfer adborth i'r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Presenoldeb yng Nghyfarfodydd Cynghorau Cymuned/Tref gan Aelodau'r Pwyllgor Safonau – Protocol.

17.

Cynllun Gwaith 2016 - 2017.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau'r Democrataidd Raglen Waith 2016-2017 wedi'i diweddaru fel a ganlyn:

 

Dyddiad

 

Mater

20 Ionawr 2017

Adolygiad o'r Gyfundrefn Ollyngiadau

 

I'w Gadarnhau

Cyfarfodydd Blynyddol ag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol a Chadeiryddion Pwyllgorau

Pan gaiff ei gyhoeddi

Llyfr Achosion Côd Ymddygiad OGCC

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhaglen waith ddiwygiedig.

 

Awgrymodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/y Swyddog Monitro y dylid newid dyddiad y cyfarfod nesaf oherwydd ymrwymiadau dyddiadur.  Yn anffodus, byddai hyn yn golygu y byddai dyddiad newydd y cyfarfod y tu allan i gyfnod Jennifer Gomes yn y swydd, sy'n dod i ben ar 4 Rhagfyr 2016.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Jennifer Gomes, y mae ei chyfraniad i'r Pwyllgor Safonau wedi bod yn amhrisiadwy dros y blynyddoedd.  Dymunodd y pwyllgor bob llwyddiant iddi ar gyfer y dyfodol.