Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorydd O G James gysylltiad personol â Chofnod 7 "Atgyfeiriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Achos honedig o dorri'r Côd Ymddygiad gan Gynghorydd Cymuned Blaenorol."

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 210 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir yn amodol ar ddangos bod y Cynghorydd Tref Carlo Rabaiotti yn bresennol.

7.

Atgyfeiriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Honiad bod Cynghorydd Cymunedol wedi torri'r Côd Ynddygiad. pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn ceisio ystyried atgyfeiriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r Swyddog Monitro i’r Pwyllgor Safonau ei ystyried mewn perthynas â thoriad honedig o'r Côd Ymddygiad gan y Cynghorydd Cymunedol blaenorol, Louise Thomas.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r Pwyllgor a chyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor eisoes wedi mabwysiadu Gweithdrefn Gwrandawiadau'r Pwyllgor Safonau. Amlinellodd dri cham y broses a ddilynir:

 

Ø    Cam 1 – Canfod Ffaith.

Ø    Cam 2 – A yw'r Cynghorydd wedi methu â dilyn y Côd.

Ø    Cam 3 – Torri'r Côd / Ystyried Sancsiynau

 

Cam 1 - Canfod Ffaith

Holodd y Cadeirydd a oedd unrhyw un yn anghytuno â'r ffeithiau diamheuol a restrir yn adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dywedodd Louise Thomas ei bod yn anghytuno â pharagraffau 47 a 49 o'r adroddiad:

 

i)               Paragraff 47 "Ni fynychodd y Cyn-gynghorydd Thomas hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad, er ei bod wedi archebu lle ar gyrsiau hyfforddi Un Llais Cymru."

 

Cytunodd Louise Thomas nad oedd wedi mynychu hyfforddiant Côd Ymddygiad Un Llais Cymru; fodd bynnag, roedd wedi mynychu cwrs hyfforddi Côd Ymddygiad gyda darparwr amgen. Dywedodd Louise Thomas ei bod wedi mynychu hyfforddiant Côd Ymddygiad ym mis Mehefin.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn ystyried y mater hwn yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

 

ii)             Paragraff 49 "Nid oedd yr un o'r cwynion a wnaed gan y Cyn-gynghorydd Thomas i'm swyddfa wedi pasio'r prawf dau gam ac felly ni ymchwiliwyd iddynt gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o dorri'r Côd Ymddygiad wedi'i chyflwyno."

 

Roedd Louise Thomas yn anghytuno â'r ffaith hon. Cadarnhaodd Leigh McAndrew fod y paragraff yn gywir. Eglurodd y Cadeirydd fod y paragraff yn ymwneud â chanfyddiadau'r Ombwdsmon yn unig ac nid â chred Louise Thomas fod ei chwynion yn ddilys. Yn dilyn yr eglurhad, derbyniodd Louise Thomas y paragraff fel ffaith.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd unrhyw anghytuno o ran y ffeithiau sy'n destun dadl a restrir yn adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dywedodd Louise Thomas ei bod bellach yn derbyn Paragraff 56 fel ffaith ddiamheuol. Derbyniodd Louise Thomas nad oedd y Cynghorydd Cymunedol Erasmus wedi mynychu'r cyfrif pleidlais ar ddydd Gwener 6 Mai 2022.

 

Cyfeiriodd Leigh McAndrew, Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at yr "ymchwiliad cwynion yn erbyn y Cyn-gynghorydd Louise Thomas o Gyngor Cymuned y Mwmbwls" fel yr amlinellir yn Atodiad B yr adroddiad, a gwnaeth sylwadau i'r Pwyllgor.

 

Cyflwynodd Louise Thomas ei sylwadau i'r Pwyllgor.

 

Gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor Safonau gwestiynau i Leigh McAndrew a Louise Thomas. Ymatebon nhw yn unol â hynny.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalennau 269 a 270 o'r Pecyn Agenda. Mae'r tudalennau hynny'n nodi bod Louise Thomas wedi derbyn copi o adroddiad drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar 21 Chwefror 2023 a bod yn rhaid iddi gyflwyno unrhyw sylwadau i'r Ombwdsmon erbyn 14 Mawrth 2023. Gofynnodd y Cadeirydd i Louise Thomas a oedd hi'n derbyn y ffeithiau hyn a pham na wnaeth hi ymateb i'r Ombwdsmon.

 

Cadarnhaodd Louise Thomas ei bod wedi derbyn adroddiad drafft yr Ombwdsmon a dywedodd nad oedd wedi ymateb i'r adroddiad drafft gan nad oedd hi bellach yn byw yng Nghymru, roedd hi'n brysur iawn a bod profedigaeth deuluol wedi bod.

 

Gadawodd y Pwyllgor Safonau i ystyried Cam 1 - Canfod Ffaith. Roedd yr unig fater a oedd yn destun dadl yn ymwneud â Louise Thomas yn mynychu hyfforddiant Côd Ymddygiad.

 

Sesiwn Gaeëdig

(Arhosodd Aelodau'r Pwyllgor Safonau a Swyddogion Cyngor Abertawe)

 

Trafododd y Pwyllgor y materion ynghylch yr ymchwiliad.

 

Sesiwn Agored

(dychwelodd Louise Thomas, Swyddogion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Aelodau'r Cyhoedd)

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau wedi ystyried y materion canfod ffaith fel y'u nodir yn adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dywedodd fod Un Llais Cymru wedi cadarnhau nad oedd Louise Thomas wedi mynychu hyfforddiant Côd Ymddygiad. Dywedodd hefyd fod Cyngor Abertawe wedi cadarnhau nad oedd wedi cynnal unrhyw gyrsiau hyfforddi Côd Ymddygiad yn ystod y cyfnod dan sylw.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Pwyllgor wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod Louise Thomas wedi mynychu hyfforddiant Côd Ymddygiad ac yn ôl pob tebyg, nid oedd wedi derbyn yr hyfforddiant hwnnw.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd Leigh McAndrew yn bwriadu galw Sara Keeton, Cynghorydd Cymuned y Mwmbwls, fel tyst o hyd. Dywedodd Leigh McAndrew ei fod yn bwriadu gwneud hynny.

 

Nododd Louise Thomas y byddai'n hoffi cael cyfle i groesholi'r tyst gan ei bod hi'n anghytuno â thystiolaeth y Cynghorydd Cymuned Sara Keeton. Dywedodd Louise Thomas ei bod yn credu y dylai holl dystion yr Ombwdsmon fod yn bresennol er mwyn iddi groesholi.

 

Sesiwn Gaeëdig

(Arhosodd Aelodau'r Pwyllgor Safonau a Swyddogion Cyngor Abertawe)

 

Trafododd y Pwyllgor y materion ynghylch yr ymchwiliad.

 

Sesiwn Agored

(Dychwelodd Louise Thomas, Swyddogion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Aelodau'r Cyhoedd)

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y cwestiwn o alw a chroesholi'r tyst. Byddai'r tyst yn nodi'r effaith bersonol yr oedd Louise Thomas wedi'i chael ar y Cynghorydd Cymuned Sara Keeton.

 

Dywedodd Leigh McAndrew ei fod yn hapus i ddibynnu ar ddatganiad tyst ysgrifenedig y Cynghorydd Sara Keeton.

 

Dywedodd y Cadeirydd na fyddai'r tyst yn cael ei alw ar hyn o bryd; fodd bynnag, cadwodd y Pwyllgor yr hawl i alw'r tyst pe canfuwyd bod Louise Thomas wedi torri'r Côd Ymddygiad.

 

Cam 2 - A yw'r Cynghorydd wedi methu â dilyn y Côd

Gofynnodd y Cadeirydd i Louise Thomas a oedd hi'n derbyn ei bod wedi torri paragraffau canlynol y Côd Ymddygiad:

 

i)               Paragraff 6 (1) (a) "Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid ystyried yn rhesymol ei fod yn dwyn anfri ar eich swydd neu awdurdod."

 

ii)              Paragraff 6 (1) (d) "Rhaid i chi beidio â gwneud cwynion blinderus, maleisus neu wamal yn erbyn aelodau eraill nac unrhyw un sy'n gweithio i'ch awdurdod neu ar ei ran."

 

Nododd Louise Thomas ei bod yn credu nad oedd unrhyw doriad ar y naill bwynt. Cyflwynodd Louise Thomas ei sylwadau i'r Pwyllgor.

 

Gwnaeth Leigh McAndrew, Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sylwadau i'r Pwyllgor.

 

Gofynnwyd cwestiynau i Leigh McAndrew a Louise Thomas gan Aelodau'r Pwyllgor Safonau. Ymatebon nhw yn unol â hynny.

 

Cafodd Louise Thomas a Leigh McAndrew gyfle i wneud unrhyw sylwadau perthnasol terfynol.

 

Gadawodd y Pwyllgor i ystyried ei benderfyniad ynghylch a oedd Louise Thomas wedi torri'r Côd Ymddygiad.

 

Sesiwn Gaeëdig

(Arhosodd Aelodau'r Pwyllgor Safonau a Swyddogion Cyngor Abertawe)

 

Trafododd y Pwyllgor y materion a oedd yn ymwneud â thorri'r Côd Ymddygiad.

 

Sesiwn Agored

(Dychwelodd Louise Thomas, Swyddogion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Aelodau'r Cyhoedd)

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried cynnwys adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dyddiedig 21 Mawrth 2023, y dystiolaeth a gynhwysir yn adroddiad yr Ombwdsmon, y ffeithiau a'r sylwadau a wnaed gan Louise Thomas.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi canfod bod Louise Thomas wedi torri Paragraffau 6 (1) (a) a 6 (1) (d) o'r Côd Ymddygiad.

 

Cam 3 - Torri'r Côd / Ystyried Sancsiynau

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn symud ymlaen i Gam 3 y gwrandawiad, a gwahoddodd sylwadau gan Leigh McAndrew, Swyddog Ymchwilio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a chan y Cyn-Gynghorydd Cymunedol Louise Thomas.

 

Fe wnaeth Leigh McAndrew ei sylwadau a dywedodd y dylai fod cosb. Tynnodd sylw at y Canllawiau Sancsiynau a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru o dan Adran 75 (10) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Amlinellodd hefyd y ffactorau lliniaru a gwaethygol y dylai'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Gwnaeth Louise Thomas ei sylwadau a dywedodd fod anwireddau yn y datganiad ac y dylai'r tystion fod wedi cael eu galw er mwyn iddi eu croesholi.

 

Ni ofynnodd y Pwyllgor Safonau gwestiynau i Leigh McAndrew na Louise Thomas.

 

Aeth y pwyllgor i ystyried ei benderfyniad ynghylch a ddylid gosod sancsiwn ac os felly, natur y sancsiwn.

 

Sesiwn Gaeëdig

(Arhosodd Aelodau'r Pwyllgor Safonau a Swyddogion Cyngor Abertawe)

 

Trafododd y Pwyllgor a ddylid gosod sancsiwn ac os felly, natur y sancsiwn.

 

 

Sesiwn Agored

(Dychwelodd Louise Thomas, Swyddogion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Aelodau'r Cyhoedd)

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau wrth y Cyn-gynghorydd Louise Thomas fod y Pwyllgor Safonau wedi ystyried pa sancsiwn, os o gwbl, i'w osod yn erbyn cefndir y Canllawiau Sancsiynau a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru, a'i ddull 5 cam. Nid oedd y canllawiau'n orfodol ar gyfer y Pwyllgor; fodd bynnag, roedd yn dempled defnyddiol. Ystyriodd y Pwyllgor Safonau ddifrifoldeb torri Paragraffau 6 (1) (a) a 6 (1) (d) o'r Côd Ymddygiad, recordio cyfarfod cyfrinachol a'r cynnig i rannu'r recordiad hwnnw, gwrthod derbyn tystiolaeth, a phatrwm y cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros sawl mis.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn ystyried yr effaith a gafodd y cwynion ar eraill, y diffyg myfyrio, y methiant i fynychu hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad, y methiant i dderbyn cyngor gan Glerc neu Gadeirydd Cyngor Cymuned y Mwmbwls a'r methiant i ddefnyddio'r Weithdrefn Datrys Anghydfodau Lleol, a bod rhywfaint o elfen o gynllunio wrth recordio cyfarfod cyfrinachol y Pwyllgor, yn ffactorau gwaethygol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn ystyried diffyg profiad y Cyn-gynghorydd Thomas, y ffaith bod y Cyn-gynghorydd Thomas wedi cydweithredu â'r Ombwdsmon a'r ffaith y gallai fod y Cyn-gynghorydd Thomas wedi cael pryderon gwirioneddol ynghylch yr hyn oedd yn digwydd yn y cyngor yn ffactorau lliniarol.

 

Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried yr ystod gyfan o sancsiynau a oedd ar gael ac roedd yn ymwybodol o'r sylwadau a wnaed gan yr Ombwdsmon o ran amgylchiadau lliniarol/gwaethygol a bod yr Ombwdsmon o'r farn bod cerydd neu fath cyfyngedig o waharddiad er budd y cyhoedd yn y mater hwn. Trafododd y Pwyllgor hefyd y sylwadau a wnaed gan Louise Thomas a'r ffaith ei bod wedi ymddiheuro am ei gweithredoedd ac wedi cydweithredu ag ymchwiliad yr Ombwdsmon.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Canfuwyd bod y Cyn-gynghorydd Louise Thomas wedi torri Paragraffau 6 (1) (a) a 6 (1) (d) o'r Côd Ymddygiad.

 

2)              Caiff y Cyn-gynghorydd Louise Thomas ei cheryddu'n ffurfiol am dorri Paragraffau 6 (1) (a) a 6 (1) (d) o'r Côd Ymddygiad.

 

3)             Pe bai'r Cyn-gynghorydd Louise Thomas yn dal i fod yn Gynghorydd Cymuned sy'n gwasanaethu, byddai'r Pwyllgor Safonau wedi gosod cyfnod atal dros dro o 6 mis arni, sef y cyfnod atal hwyaf y gallai'r Pwyllgor ei osod.

8.

Cynllun Gwaith 2023-2024. pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf.