Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr O G James ac M B Lewis gysylltiad personol â Chofnod 4 "Atgyfeiriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Achos honedig o dorri'r Côd Ymddygiad gan Gynghorydd Cymuned."

 

Datganodd y Cynghorydd L G Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 4 "Atgyfeiriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Achos honedig o dorri'r Côd Ymddygiad gan Gynghorydd Cymuned" a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 287 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion dau gyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 22 fel cofnod cywir.

3.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeedig)

4.

Atgyfeiriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Honiad bod Cynghorydd Cymunedol wedi torri'r Côd Ynddygiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar ran y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn ystyried adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â'r toriad honedig o'r Côd Ymddygiad gan Gyn-gynghorydd  Cymuned a atgyfeiriwyd at y Swyddog Monitro i'w benderfynu gan y Pwyllgor Safonau.

 

Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fanylion y gŵyn.   Gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried y canlynol:

 

a.            a oedd tystiolaeth i gefnogi'r gŵyn neu

b.            a ddylai'r cyn-gynghorydd dan sylw gael y cyfle i ymateb, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.

 

Ystyriodd y pwyllgor y dystiolaeth a theimlent fod tystiolaeth ddigonol i barhau i gam nesaf y broses a rhoddir y cyfle i'r  cyn-gynghorydd ymateb. Byddai'r pwyllgor yn ystyried trefnu i Banel Gwrandawiadau glywed a phenderfynu ar y mater, yn unol â Gweithdrefn y Panel Gwrandawiadau. 

 

Penderfynwyd:

 

1)           Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ysgrifennu at y  Cyn-gynghorydd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn eu gwahodd i ymateb yn unol â Gweithdrefn y Panel Gwrandawiadau.