Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau
busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apelio'r Polisi Ymddygiad Afresymol gan Gwsmeriaid. Penderfyniad: Apêl wedi’i gwrthod. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad i ystyried apêl o dan y Polisi Ymddygiad Afresymol
Cwsmeriaid. Roedd y Pwyllgor
Safonau wedi gofyn am ragor o wybodaeth ysgrifenedig yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth
2023. Roedd yr wybodaeth ysgrifenedig
bellach ynghlwm yn Atodiad 5. Penderfynwyd: 1)
bod y
Pwyllgor Safonau yn cadarnhau camau gweithredu'r Awdurdod Lleol wrth roi'r
Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid ar waith; 2)
bod y
Swyddog Monitro yn ysgrifennu at y Tîm Cwynion Corfforaethol yn gofyn i'r
cynnwys yn adran 3.2 gael ei ystyried mewn unrhyw lythyr yn y dyfodol os yw'n
berthnasol. |
|
Ceisiadau am Ollyngiad. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Rhoi
caniatâd i’r Cynghorydd Stevens aros, siarad a gwneud sylwadau’n ysgrifenedig
ar unrhyw fater mewn perthynas â’r Bil Bwyd a’r Polisi Bwyd Cynaliadwy. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad i ystyried cais am ollyngiad. Wrth ystyried
caniatáu gollyngiad, ceisiodd y pwyllgor gydbwyso budd y cyhoedd wrth atal
aelodau â chysylltiadau rhagfarnol rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau, yn
erbyn budd y cyhoedd o gael grŵp cynrychiadol o aelodau'r awdurdod yn
gwneud penderfyniadau. Amlinellwyd y rhesymau
y tu ôl i'r cais yn yr adroddiad ac fe'u hehangwyd gan y Swyddog Monitro yn
ystod trafodaeth ar y mater. Penderfynwyd: Caniatáu
gollyngiad i'r Cynghorydd Stevens i aros, siarad a chyflwyno sylwadau
ysgrifenedig ond peidio â phleidleisio ar unrhyw fater yn ymwneud â Bil Bwyd
(Cymru) a Pholisi Bwyd Cynaliadwy. Ni
fydd yr ollyngiad hwn yn gymwys os yw'r Cynghorydd yn ymwybodol o unrhyw
effaith ar berson sydd â chysylltiad agos (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y
Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â Bil Bwyd (Cymru) a Pholisi Bwyd Cynaliadwy ac
sy'n benodol iddo. |