Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorwyr O James a G Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 40 “Apêl Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid” a gadawodd y cyfarfod cyn i’r eitem gael ei thrafod. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y Cynghorwyr O G James a L G Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 40 "Apêl Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid" a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau
busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apelio'r Polisi Ymddygiad Afresymol gan Gwsmeriaid. Penderfyniad: 1)
Gofynnodd
y Pwyllgor am fanylion ysgrifenedig pellach gan y Swyddogion perthnasol; 2) Aildrefnu’r cyfarfod ar gyfer dyddiad yn y dyfodol agos. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad ar ran y Swyddog Monitro i ystyried apêl o
dan y Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid. Gofynnodd y
Pwyllgor sawl cwestiwn mewn perthynas â'r wybodaeth a ddarparwyd yn yr
adroddiadau gerbron y Pwyllgor. Nid oedd y manylion angenrheidiol i ateb y
cwestiynau wedi’u cynnwys yn y pecyn agenda.
O ganlyniad, teimlai'r Pwyllgor na allai wneud penderfyniad hyd nes y
byddai'r wybodaeth ysgrifenedig honno wedi dod i law. Penderfynwyd: 1)
bod y
Pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion ysgrifenedig gan y swyddogion perthnasol; 2)
bod y
cyfarfod yn cael ei aildrefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol agos. |