Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd. Penderfyniad: Etholwyd Mike Lewis, Aelod Annibynnol, yn Gadeirydd. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Mike Lewis, Aelod Annibynnol, yn
Gadeirydd. Bu'r Cadeirydd, Mike Lewis, yn llywyddu |
|
Ethol is-gadeirydd. Penderfyniad: Etholwyd Jane Pardue-Wood, Aelod Annibynnol, yn Is-gadeirydd. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Janet Pardue-Wood, Aelod Annibynnol, yn Is-gadeirydd. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Croeso. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Mark Rees, Aelod Annibynnol, i'w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor
Safonau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau
busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apelio'r Polisi Ymddygiad Afresymol gan Gwsmeriaid.
Penderfyniad: Gohiriwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i ystyried a ddylid caniatáu presenoldeb
personol ar gyfer apêl o dan y Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid. Penderfynwyd y bydd y Swyddog Monitro'n ysgrifennu at yr apelydd eto, gan ofyn am ymateb i ohebiaeth flaenorol o fewn cyfnod o 2 wythnos. |