Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

46.

Cofnodion. pdf eicon PDF 219 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2023, 17 Chwefror 2023 a 2 Mawrth 2023 a'u llofnodi fel cofnodion cywir.

47.

Dyletswydd Arweinwyr y Grwpiau. pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Fel rhan o'r dyletswyddau newydd ar gyfer Arweinwyr Grŵp fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cytunodd y Pwyllgor Safonau i gwrdd ag Arweinwyr Grŵp gwleidyddol i drafod sut y maent yn cynnal safonau uchel o ymddygiad o fewn eu grŵp.

 

Gofynnwyd i Arweinwyr Grŵp gyflwyno templed wedi’i gwblhau i'r Pwyllgor Safonau cyn y trafodaethau (gweler Atodiad A).

 

Yn ogystal â’r templedi gorffenedig, gwahoddodd y Pwyllgor y Cynghorwyr Lyndon Jones (Ceidwadwyr) a Peter May (Uplands) i’r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 22 Mawrth 2023.

 

Darparodd y Cynghorwyr Jones a Holley yr wybodaeth ategol ganlynol yn ystod trafodaethau:

 

Y Cynghorydd Lyndon Jones

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod gan ei grŵp berthynas dda iawn gyda'r grwpiau gwleidyddol eraill a Chynghorwyr yn Abertawe.  Roedd yn disgwyl i Gynghorwyr drin eraill â pharch - yn yr un ffordd ag y byddech chi'n disgwyl cael eich trin gan eraill.  Roedd bob amser yn awyddus i ddiolch i swyddogion am y gwaith caled a wnaed.

 

·                    Hyfforddiant

 

Teimlai'r Cynghorydd Jones fod y rhaglen hyfforddiant a ddarparwyd ar gyfer Cynghorwyr yn dda iawn.  Yn ogystal, roedd y ffordd y gweithredodd Abertawe ei phroses graffu o safon aur.

 

Roedd wedi atgoffa ei grŵp i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant heb ei gwblhau drwy wylio'r recordiadau. Er ei fod yn cydnabod bod hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol yn cael ei ddarparu i Gynghorwyr, awgrymodd efallai y dylid ystyried mwy o hyfforddiant neu hyfforddiant uwch.

 

·                    Côd Ymddygiad

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod perthynas waith dda gyda'r holl Arweinwyr Grŵp a'r holl Gynghorwyr eraill ac nid oedd unrhyw faterion côd ymddygiad ar hyn o bryd.  Pe byddai unrhyw beth yn codi byddai'n eu codi gyda'r unigolion perthnasol ar unwaith.  

 

Er mwyn cynnal safonau uchel roedd yn cyfarfod â'i grŵp yn rheolaidd.  Mae'n aelod o'r Pwyllgor Disgyblu a Seneddol o fewn ei grŵp a hysbysir darpar ymgeiswyr o'r ymddygiadau disgwyliedig wrth wneud cais am rôl Cynghorydd.

 

Y Cynghorydd Peter May

 

Adroddodd y Cynghorydd May fod ei grŵp wedi dyblu o 2 i 4 aelod yn yr etholiad Llywodraeth Leol diwethaf a oedd yn caniatáu i'w aelodau gymryd rhan mewn mwy o Bwyllgorau gan fod ei gymesuredd wedi cynyddu o ganlyniad.

 

·                     Hyfforddiant

 

Awgrymodd y Cynghorydd May y gallai sesiynau hyfforddiant fod yn fwy deniadol a rhyngweithiol o ran y ffordd y cânt eu cyflwyno gan fod mwyafrif y sesiynau'n cael eu cyflwyno drwy gyflwyniad Powerpoint. Roedd hyn yn ailadroddus iawn ac nid yn gyffrous o gwbl.

 

·                     Côd Ymddygiad

 

Dywedodd y Cynghorydd May nad oedd unrhyw faterion côd ymddygiad wedi'u hadrodd ac nad oedd wedi gorfod defnyddio'r Broses Datrys Anghydfodau Mewnol, fodd bynnag fe sicrhaodd ei fod bob amser yn gwrtais i eraill.  Byddai'n sicrhau ei fod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau pellach i ddeddfwriaeth mewn perthynas â'r ddyletswydd ar Arweinwyr Grwpiau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r ddau Gynghorydd am ddod i gyfarfod y Pwyllgor i roi adborth pellach.

48.

Cynlluniau Hyfforddi Cynghorau Cymuned a Thref. pdf eicon PDF 233 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried sut i adolygu cynlluniau hyfforddi Cynghorau Cymuned a Thref a sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei gynnal mewn Cynghorau Cymuned a Thref yn Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Y dylid nodi'r adroddiad;

2)           Bydd y Pwyllgor Safonau yn ailymweld â'r eitem hon ymhen 6 mis.

49.

Rhoddion a Lletygarwch. pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cefnogi cysoni trothwyon ar draws Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried cysoni trothwyon rhoddion a lletygarwch er mwyn sicrhau cysondeb ar draws Cymru.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Safonau yn cefnogi’r cynnig y dylai Awdurdodau Lleol yng Nghymru gysoni eu trothwyon ar gyfer cofrestru rhoddion a lletygarwch yn wirfoddol er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru.

50.

Torri Cod Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 105 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Safonau am benderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod Cynghorwyr Awdurdodau Lleol a Chynghorwyr Cymuned/Tref wedi torri'r Côd Ymddygiad.

51.

Cynllun Gwaith 2022-2023. pdf eicon PDF 227 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro gynllun gwaith 2022-2023.

 

Penderfynwyd:

 

1)           dylid nodi'r cynllun gwaith;

2)           dylid cynnwys yr eitemau sy'n weddill yn y Cynllun Gwaith ar gyfer 2023-2024.