Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorydd L G Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 34 "Apêl Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid" a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 7 Hydref a 25 Tachwedd 2022 fel
cofnod cywir. |
|
Llythyr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad i ystyried llythyr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru (OGCC) o ran newidiadau bach i Arweiniad y Côd
Cwynion a'r broses. Y prif bwyntiau oedd: a.
Rhennir
hysbysiad o benderfyniad unigol sy'n amlinellu'r gŵyn a'r penderfyniad â
Swyddogion Monitro fel y gallant rannu hyn â'r
Pwyllgorau Safonau (lle bo hynny'n briodol); b.
Treialwyd
dull newydd o ran sut i hysbysu aelodau a gyhuddwyd a Swyddogion Monitro o
gŵyn; c.
roedd
OGCC yn bwriadu ymgysylltu â Chadeiryddion drwy Fforwm Cenedlaethol ar gyfer
Pwyllgorau Safonau. Penderfynwyd y byddai'r Pwyllgor Safonau'n nodi'r llythyr dyddiedig 10 Tachwedd a atodwyd yn Atodiad A sy'n amlinellu'r mân newidiadau i'r weithdrefn. |
|
Diweddariad ar Gynlluniau Hyfforddi Cynghorau Tref/Cymuned. (Llafar) Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Atgoffodd y Swyddog Monitro'r Pwyllgor o’r ddyletswydd newydd o dan Adran
67 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sy'n nodi bod angen i Gynghorau
Cymuned lunio a chyhoeddi cynllun hyfforddi ar gyfer eu Cynghorwyr a staff
cymunedol o fewn 6 mis o'r dyddiad y daeth y ddyletswydd i rym, h.y. 5 Tachwedd
2022. Nododd fod 19 o'r 24 Cyngor Tref/Cymuned wedi ymateb i'w hymholiad am gopi
o'u cynlluniau hyfforddi. Cysylltir â'r cynghorau sy'n weddill i ofyn am eu
hymatebion a chyhoeddir adroddiad sy'n amlinellu'r manylion yn ystod cyfarfod y
Pwyllgor Safonau yn y dyfodol i'w ystyried. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor Safonau am benderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod Cynghorwyr Awdurdodau Lleol a
Chynghorwyr Cymuned/Tref wedi torri'r Côd Ymddygiad. |
|
Cynllun Gwaith 2022-2023. PDF 228 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro gynllun gwaith 2022-2023. Penderfynwyd: 1)
Trefnu
cyfarfod arbennig ym mis Chwefror 2023 er mwyn cyfarfod ag Arweinwyr Grwpiau i
drafod eu dyletswydd newydd; 2) Ychwanegu'r adolygiad o Roddion a Lletygarwch (safoni'r broses) at y cynllun gwaith. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau
busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd
y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apelio'r Polisi Ymddygiad Afresymol gan Gwsmeriaid. Penderfyniad: Gwrthodwyd gwrandawiad apêl personol. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad i ystyried a ddylid caniatáu presenoldeb personol ar
gyfer apêl o dan y Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid. Penderfynwyd gwrthod y cais am bresenoldeb personol ar gyfer apêl o dan y Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid. |