Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2022 fel cofnod cywir. |
|
Protocol Datrys Anghydfodau Lleol rhwng Aelodau. PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad i ystyried y Protocol Datrys Anghydfodau Lleol Aelod
yn erbyn Aelod a'r newidiadau arfaethedig. Penderfynwyd argymell Atodiad A i'r Tîm Rheoli
Corfforaethol a'r cyngor i'w fabwysiadu'n ffurfiol yn amodol ar y diwygiadau
canlynol: 1)
Paragraff
3.1 - Ychwanegu'r Swyddog Monitro at y rheini a fydd yn cael eu hysbysu pan fo
aelod am ddefnyddio'r Protocol; 2) Paragraff 3.2 - Ychwanegu'r gair "yn ffurfiol" ar ôl y gair "cyfeirio". |
|
Protocol ar Gysylltiadau Aelodau/Swyddogion. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad i ystyried y Protocol ar gyfer cysylltiadau
Swyddogion ac Aelodau a'r newidiadau arfaethedig. Penderfynwyd bydd y Pwyllgor Safonau'n argymell y
Protocol diwygiedig yn Atodiad A i'r Tîm Rheoli Corfforaethol a'r cyngor i'w fabwysiadu'n
ffurfiol yn amodol ar y diwygiad canlynol: 1) Ychwanegu troednodyn/dolen ynghylch Egwyddorion Nolan a'r Côd Swyddogion i’r adran "Parch a Chwrteisi". |
|
Dyletswydd Arweinydd Grwp. PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad i ystyried y templed i Arweinwyr Grŵp ei gwblhau
mewn perthynas â'u dyletswydd i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021. Penderfynwyd cymeradwyo'r templed sy'n atodedig yn Atodiad A, yn amodol ar yr ychwanegiadau
canlynol: 1)
Ychwanegu
maes dyddiad at y ffurflen; 2)
Cynnwys
arweiniad ar sut i lenwi’r ffurflen ac esboniad ynghylch pam y mae angen
cynnwys yr wybodaeth; 3)
Adran
1. Hyfforddiant - dylid rhannu'r ymatebion er mwyn gwahaniaethu rhwng aelodau
newydd ac aelodau presennol; 4) Dylid cynnwys enghreifftiau yn Adrannau 2 a 4. |
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021/2022. PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd y Swyddog
Monitro adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor Safonau am Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru 2021/2022. |
|
Torri Cod Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). PDF 198 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r wybodaeth ddiweddaraf
i'r Pwyllgor Safonau am benderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
mewn perthynas â honiadau bod Cynghorwyr Awdurdodau Lleol a Chynghorwyr
Cymuned/Tref wedi torri'r Côd Ymddygiad. |
|
Cynllun Gwaith 2022-2023. PDF 226 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro gynllun gwaith 2022-2023. Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith. |
|
Diolch a Chroeso. Cofnodion: Amlinellodd y
Swyddog Monitro ei fod yn debygol mai dyma oedd cyfarfod olaf y Cadeirydd
presennol o’r Pwyllgor Safonau gan y byddai ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben
ar 18 Hydref ar ôl 10 mlynedd. Diolchodd y Pwyllgor i'r Cadeirydd ymadawol am y
gwaith a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw. Croesawodd y Swyddog Monitro'r Cynghorydd Carlo Rabaiotti hefyd, Cynrychiolydd y Cyngor Cymuned/Tref i'w gyfarfod cyntaf, yn dilyn ei benodiad ar 6 Hydref 2022. |