Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 237 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022 fel cofnod cywir.

3.

Pwyllgor Safonau - Dyletswyddau newydd. pdf eicon PDF 236 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried dyletswyddau newydd y Pwyllgor a chytuno ar gamau gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cynllun gweithredu fel a nodir ym mharagraff 2.5 i sicrhau cydymffurfiaeth â'u dyletswyddau newydd o dan ddeddfwriaeth.

4.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2021-2022. pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn nodi gwaith y Pwyllgor Safonau yn ystod 2021-2022.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2021-2022 a'i drosglwyddo i'r cyngor ar 7 Gorffennaf 2022 er gwybodaeth.

5.

Torri Cod Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). pdf eicon PDF 202 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am benderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod Cynghorwyr Awdurdodau Lleol a Chynghorwyr Cymuned a Thref wedi torri'r Côd Ymddygiad.

6.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Safonau. pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried Cynllun Gwaith y Pwyllgor ac i gytuno ar yr eitemau i'w hystyried gan y Pwyllgor Safonau yn 2022/23.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Gwaith a amlinellir yn Atodiad 1 ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022/23.

7.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

8.

Ceisiadau am Ollyngiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried ceisiadau ar gyfer goddefeb mewn perthynas â’r Cynghorwyr canlynol:

 

i)             Y Cynghorydd R V Smith;

ii)            Y Cynghorydd C A Holley;

iii)           Y Cynghorydd A Pugh.

 

Wrth ystyried caniatáu goddefebau, ceisiodd y pwyllgor gydbwyso budd y cyhoedd wrth atal aelodau â chysylltiadau rhagfarnol rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau, yn erbyn budd y cyhoedd o gael grŵp cynrychiadol o aelodau'r awdurdod yn gwneud penderfyniadau.

 

Amlinellwyd y rhesymau y tu ôl i'r ceisiadau yn yr adroddiad a gwnaeth y Swyddog Monitro ymhelaethu arnynt yn ystod trafodaeth ar y mater.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

(i)           Rhoi goddefeb i'r Cynghorydd R V Smith o dan baragraff 2 (ch) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Goddefebau) (Cymru) 2001 (fel y'i diwygiwyd): 

 

Aros a siarad ond i beidio â phleidleisio ar faterion sy'n ymwneud â phenodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol.

 

Ni fydd yr oddefeb hon yn gymwys os yw'r Cynghorydd yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson sydd â chysylltiad agos (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â phenodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol ac sy'n benodol iddo.

 

(ii)          Rhoi goddefeb i'r Cynghorydd Chris Holley o dan baragraff 2 (ch) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Goddefebau) (Cymru) 2001 (fel y'i diwygiwyd): 

 

Aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig o ran materion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

 

Ni fydd yr oddefeb yn gymwys os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i ferch ac sy'n benodol iddi.

 

(iii)         Rhoi’r oddefeb ganlynol i'r Cynghorydd A Pugh dan baragraff 2 (ch) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Goddefebau) (Cymru) 2001 (fel y'i diwygiwyd):

 

Aros, siarad a phleidleisio (ond nid mewn perthynas â chyflogaeth ei merch) wrth ystyried faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant a Theuluoedd.

 

Ni fydd yr oddefeb yn gymwys os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i merch ac sy'n benodol iddi.