Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2021 a 21 Ionawr 2022 fel cofnodion
cywir. |
|
Cyfarfod Blynyddol gydag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol. (Llafar) Y Cynghorydd Peter
May, Grŵp Uplands Penderfyniad: Noted. Cofnodion: Mae'r Pwyllgor
Safonau'n gwahodd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol i gyfarfod y Pwyllgor Safonau
yn flynyddol i drafod deddfwriaeth berthnasol yn Neddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021. Y themâu ar
gyfer trafodaeth, a ddosbarthwyd i aelodau ymlaen llaw, oedd: Cwestiwn 1 – Mae Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn amodi bod yn rhaid i arweinwyr
grwpiau gwleidyddol gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau
ymddygiad uchel gan aelodau eu grŵp. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed pa
gamau rydych yn eu cymryd yn awr o ran cynnal safonau o fewn eich grŵp
eich hun a sut rydych yn bwriadu cyflawni'r ddyletswydd newydd wrth symud
ymlaen? Cwestiwn 2 – Mae gan y Pwyllgor Safonau swyddogaethau newydd o dan y Ddeddf hefyd i
sicrhau bod arweinwyr grwpiau'n gallu cael cyngor a hyfforddiant i gefnogi'u
dyletswyddau newydd ac i fonitro cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau â'r
dyletswyddau hynny. A oes unrhyw gefnogaeth y teimlwch y byddai'n fuddiol naill
ai gan y Pwyllgor Safonau/Prif Weithredwr/Swyddog Monitro wrth gyflawni'ch
dyletswydd ac a allwn ni eich cynorthwyo mewn unrhyw ffordd. Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Peter May, Arweinydd Grŵp Uplands i'r Pwyllgor a ymatebodd fel a ganlyn: Dywedodd mai'r
prif ffocws oedd ymrwymo i'r 6 gwerth y maent yn eu cynnal mewn perthynas â Bod
yn Agored, Tryloywder, Gonestrwydd, Uniondeb, Goddefgarwch a Pharch,
Cydraddoldeb a Thegwch, Gwerthfawrogi Gwahaniaethau Diwylliannol a
Chynaladwyedd. Esboniodd mai
grŵp bach o ddim ond 2 aelod oedd Grŵp Uplands,
felly byddai unrhyw faterion perthnasol a'r ffordd ymlaen yn cael eu trafod
drwy gyfarfod un i un. Byddai'r Swyddog
Monitro yn darparu unrhyw gyngor ar ddehongli'r safonau. Dywedodd y
Cynghorydd May fod Grŵp Uplands yn gobeithio
ehangu nifer ei aelodau i 4 yn dilyn yr Etholiad Llywodraeth Leol a drefnwyd ar
gyfer 5 Mai 2022 a byddai'n sicrhau bod y darpar ymgeiswyr yn cael eu harfarnu
o'r safonau cyn yr Etholiad. O ran cymorth, gofynnodd y Cynghorydd May a allai ofyn am gyngor perthnasol gan y Pwyllgor a swyddogion yn dilyn yr Etholiad Llywodraeth Leol, pe bai unrhyw faterion yn codi ac unwaith y byddai Arweinwyr Grŵp wedi gallu "profi" eu cyfrifoldebau a amlinellir yn y Ddeddf. |
|
Safonau Ymddygiad - Arweiniad Statudol Drafft. PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am
ganllawiau statudol drafft Llywodraeth Cymru a oedd yn ymwneud â dyletswyddau
newydd y Pwyllgor Safonau ac Arweinwyr Grwpiau. Amgaewyd y
canllawiau statudol drafft yn Atodiad A a oedd hefyd
yn amlinellu'r cwestiynau allweddol i'r Pwyllgor: Cwestiwn 1 - A yw'r canllawiau drafft yn esbonio'n
glir yr hyn a ddisgwylir gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn prif gynghorau,
fel y nodir yn narpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 mewn ffordd y gellir ei ddeall gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol
mewn prif gynghorau? Cwestiwn 2 - A yw'r canllawiau drafft yn esbonio'n
glir yr hyn a ddisgwylir gan Bwyllgorau Safonau mewn prif gynghorau, fel y
nodir yn narpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
mewn ffordd y gall Pwyllgorau Safonau ei deall?
Penderfynwyd y byddai ymateb y Pwyllgor Safonau i'r
ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gan y Swyddog Monitro, yn
cadarnhau eu bod yn deall y 2 gwestiwn allweddol a amlinellir uchod. |
|
Adolygu Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau. PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd, yn
amodol ar ddiwygiadau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am
newidiadau arfaethedig i'r Cylch Gorchwyl yn dilyn dyletswyddau newydd o dan
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Amlinellwyd y
newidiadau arfaethedig yn Atodiad A, ac amlinellwyd y Cylch Gorchwyl presennol
yn Atodiad B. Amlinellodd y
cyfrifoldebau ychwanegol ym Mharagraffau 2.2-2.4 o'r adroddiad. Awgrymodd y
Cynghorydd Phil Crayford y dylid ychwanegu cyfnod swydd cynrychiolydd y Cyngor
Cymuned / Tref yn adran 7.2. Penderfynwyd bod y Pwyllgor Safonau yn argymell y newidiadau i'r Cylch Gorchwyl, yn amodol ar y diwygiad uchod, a fyddai'n cael ei adrodd i Weithgor y Cyfansoddiad ac yna'r cyngor i'w gymeradwyo. |
|
LLyfr Achosion Cod Ynddygiad. PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad
"er gwybodaeth" yn amlinellu Llyfr Achosion Côd Ymddygiad diweddaraf
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Yn benodol, tynnodd sylw at fanylion yr
achos mewn perthynas â Chyngor Tref Trefyclo a'r achos a gyfeiriwyd at Banel
Dyfarnu Cymru mewn perthynas â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yr oedd
disgwyl am y canlyniad o hyd. |
|
Torri Côd Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r pwyllgor am benderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru mewn perthynas â honiadau bod Cynghorwyr Awdurdodau Lleol a Chynghorwyr
Cymuned a Thref wedi torri'r Côd Ymddygiad. |
|
Cynllun Gwaith 2022- 2023. (Llafar) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Awgrymodd y Swyddog Monitro y dylid ystyried y pynciau canlynol ar gyfer
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2022-2023: ·
Sut mae'r Pwyllgor yn
ymdrin â'i ddyletswydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Etholiadau (Cymru) 2021 o
ran monitro arweinwyr grwpiau a'u gofyniad i gwblhau Adroddiad Blynyddol; ·
Adolygiad o Brotocol
Cysylltiadau Swyddogion / Aelodau; ·
Adolygiad o Brotocol
Datrys Anghydfodau Lleol Aelod yn erbyn Aelod; ·
Adroddiad diweddaru
ynghylch hyfforddiant Cynghorau Cymuned / Tref, yn enwedig hyfforddiant
ariannol; ·
Canllawiau Cyfryngau
Cymdeithasol i Gynghorwyr; ·
Diweddaru'r ffurflen goddefeb; ·
Polisi Datgelu Camarfer
(Pennaeth Adnoddau Dynol i ddarparu gwybodaeth gefndir i'r Pwyllgor); ·
Cynllun Indemniad. |
|
Diolch. Cofnodion: Ar ran y Pwyllgor
Safonau, diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Phil Crayford a mynegodd ei
ddymuniadau gorau iddo ar ei gyfarfod diwethaf fel cynrychiolydd y Cyngor
Cymuned / Tref ar y Pwyllgor Safonau.
Byddai cyfnod swydd y Cynghorydd Crayford yn dod i ben yn yr Etholiadau
Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022. Ymatebodd y Cynghorydd Crayford drwy ddiolch i'r Pwyllgor am ei holl gymorth dros y blynyddoedd. Roedd wedi mwynhau cynorthwyo'r Pwyllgor yn fawr yn yr holl waith yr oedd wedi'i wneud ers ymuno â'r Pwyllgor ym mis Hydref 2012 a chynigiodd ei gymorth i'r person a fydd yn cymryd ei le, ar ôl iddo gael ei benodi. |