Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2020-2021

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021.

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2020-2021

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd A S Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021.

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 214 KB

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi  cofnodion cyfarfod Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 9 Medi 2019 fel cofnod cywir.

5.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraffau gwahardd 12 ac 13 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

6.

Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a amlinellodd ei berfformiad yn erbyn amcanion 2019-2020 y cytunwyd arnynt gan Bwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth y Prif Weithredwr ar 9 Medi 2019.  Ar gyfer y cyfnod penodol rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020.

 

Roedd themâu’r amcanion yn cynnwys y meysydd canlynol: Enw da, Ad-drefnu/Cydweithredu Llywodraeth Leol, Adfywio Dinasoedd, y Rhaglen Trawsnewid, y Gyllideb a Blaenoriaethau Corfforaethol.

 

Nododd y Prif Weithredwr yr amcanion arfaethedig y dylid eu gosod ar gyfer 2020-2021.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ei berfformiad yn ystod 2019-2020 a'i amcanion arfaethedig ar gyfer 2020-2021 a gofynnodd nifer o gwestiynau. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch yr amcanion amrywiol, meysydd pwnc a pherfformiad.

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar amcanion y Prif Weithredwr ar gyfer 2020-2021 yn gyffredinol dan y themâu canlynol: Enw da, Ad-drefnu/Cydweithredu Llywodraeth Leol, Adfywio Dinasoedd, Rhaglen Trawsnewid, Cyllideb, Blaenoriaethau Corfforaethol ac Ymateb i COVID-19.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Roedd y Pwyllgor yn fodlon â pherfformiad y Prif Weithredwr yn erbyn amcanion 2019-2020.

 

2)        Cytunodd y Pwyllgor ar amcanion y Prif Weithredwr ar gyfer 2020-2021.

7.

Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Dirprwy Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad gwybodaeth a amlinellodd ei berfformiad rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020. Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am yr hyn yr oedd yn meddwl ei fod wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ei berfformiad a'r cyflawniadau hynny fel yr amlinellwyd.

 

Amlinellodd y Dirprwy Brif Weithredwr hefyd ei amcanion arfaethedig ar gyfer 2020-2021 a ystyriwyd gan y Pwyllgor.

 

Gofynnwyd i'r Prif Weithredwr ystyried sylwadau'r Pwyllgor wrth benderfynu ar amcanion 2020-2021 ar gyfer y Dirprwy Brif Weithredwr.