Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadleddau’r Cabinet - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2017/2018.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018.

 

Bu'r cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn llywyddu

8.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2017/2018.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd C E Lloyd yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017/2018.

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 67 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2017 fel cofnod cywir.

11.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraffau gwahardd 12 ac 13 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

 PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

12.

Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr y diweddaraf am yr amcanion perfformiad yr oedd wedi'u nodi yn ei rôl dros dro ers 1 Mehefin 2016 ac yna yn ei rôl barhaol o fis Gorffennaf 2017. Darparodd ac amlinellodd adroddiad cynnydd manwl yn ymwneud â'r themâu a'r perfformiadau amrywiol tuag at yr amcanion a amlygwyd yn yr atodiadau i'r adroddiad.

 

Nododd ac amlinellodd hefyd ei amcanion ar gyfer 2018.

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch yr amcanion, a'r meysydd pwnc amrywiol a pherfformiad, ac ymatebodd y Prif Weithredwr yn briodol. O ganlyniad i'r trafodaethau a gynhaliwyd, cryfhawyd yr amcanion yn unol â hyn. Byddai'r Prif Weithredwr yn ail-gylchredeg yr amcanion diwygiedig i'r pwyllgor.

  

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1) Roedd yr aelodau'n fodlon ar berfformiad y Prif Weithredwr;

 

2) Cytunodd y pwyllgor ar yr amcanion diwygiedig ar gyfer 2018/19.