Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2022-2023.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig.

 

Bu'r Cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn llywyddu

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2022-2023.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd A S Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig.

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

4.

Cofnodion: pdf eicon PDF 221 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir.

5.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraffau gwahardd 12 ac 13 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

 Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

6.

Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cynhaliodd y Pwyllgor werthusiad o'r Prif Weithredwr.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diwygio a chymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.