Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-2022.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022.

 

Bu'r Cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn llywyddu

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-2022.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd A S Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022.

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

4.

Cofnodion: pdf eicon PDF 214 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi  cofnodion cyfarfod Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020 fel cofnod cywir.

5.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraffau gwahardd 12 ac 13 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

6.

Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn amlinellu ei berfformiad yn erbyn amcanion Hydref 2020 - Medi 2021 y cytunwyd arnynt gan Bwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth y Prif Weithredwr ar 13 Hydref 2020.

 

Roedd yr amcanion yn cynnwys y themâu canlynol: Enw da, Ad-drefnu/Cydweithio'r Awdurdod Lleol, Adfywio'r ddinas, Rhaglen Drawsnewid, y gyllideb, blaenoriaethau corfforaethol ac ymateb i COVID-19.

 

Nododd a chynhigiodd y Prif Weithredwr yr amcanion arfaethedig ar gyfer 2021-2022.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ei berfformiad yn ystod 2020-2021 a'i amcanion arfaethedig ar gyfer 2021-2022 a gofynnodd nifer o gwestiynau ynghylch yr amrywiol amcanion, meysydd pwnc a pherfformiad.

 

Gwnaeth y Pwyllgor bennu amcanion y Prif Weithredwr 2021-2022 yn ôl y themâu canlynol: Enw da, Ad-drefnu/Cydweithio'r Awdurdod Lleol, Adfywio'r ddinas, Rhaglen Drawsnewid, y gyllideb, blaenoriaethau corfforaethol ac ymateb i COVID-19.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)           Roedd y Pwyllgor yn fodlon â pherfformiad y Prif Weithredwr yn erbyn Amcanion 2020-2021.

 

2)         Cytunodd y Pwyllgor ar amcanion y Prif Weithredwr ar gyfer 2021-2022.

7.

Gohiriwyd y cyfarfod

Cofnodion:

Gohiriwyd y cyfarfod am 3.03pm.

 

Bydd y cyfarfod yn ailgynnull am 3.00pm, dydd Llun, 15 Tachwedd 2021.

8.

Cyfarfod a ailalwyd - 3.00pm dydd Llun, 15 Tachwedd 2021

Cofnodion:

Ailygynullodd y cyfarfod â'r un Cynghorwyr a Swyddogion yn bresennol. Roedd y Dirprwy Brif Weithredwr, Adam Hill, hefyd yn bresennol.

 

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L R Jones.

9.

Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Dirprwy Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad a oedd yn amlinellu’i amcanion a'i gyflawniadau ar gyfer Hydref 2020 - Medi 2021.

 

Roedd amcanion a chyflawniadau 2020-2021 yn cynnwys y themâu canlynol: Blaenoriaethau Corfforaethol, Gweithio mewn Partneriaeth, Y Rhaglen Drawsnewid, Enw da, Gwasanaethau Allweddol, Gwasanaeth Monitro ac Olrhain a'r ymateb i bandemig COVID-19, y Gyllideb, darparu rhywun i gymryd lle’r Prif Weithredwr yn ffurfiol a’r Portffolio Gwasanaethau.

 

Nododd a chynigiodd y Dirprwy Brif Weithredwr amcanion ar gyfer 2021-2022.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ei berfformiad yn ystod 2020-2021 a'i amcanion arfaethedig ar gyfer 2021-2022 a gofynnodd nifer o gwestiynau ynghylch yr amrywiol amcanion, meysydd pwnc a pherfformiad.

 

Pennodd y Pwyllgor amcanion y Prif Weithredwr ar gyfer 2021-2022 yn ôl y themâu canlynol: Y Gyllideb, y Gwasanaeth Monitro ac Olrhain a'r ymateb i bandemig COVID-19, Ailstrwythuro ac Ailffocysu Adnoddau, Y Rhaglen Trawsnewid a Newid - Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd, Enw da, Gweithio mewn partneriaeth, Rhanbartholi - Gweithio rhanbarthol a Goruchwylio Corfforaethol.

 

Penderfynwydar y canlynol:

 

1)                   Roedd y pwyllgor yn fodlon ar berfformiad y Prif Weithredwr yn erbyn Amcanion 2020-2021.

 

2)         Cytunodd y Pwyllgor ar amcanion y Prif Weithredwr ar gyfer 2021-2022.