Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a
Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Cynghorwyr Y
Cynghorydd J A Hale - Eitem 6 yr Agenda (Ysgol Gynradd Danygraig)
- Personol a Rhagfarnol gan mai'r ymgeisydd ydw i a gadawodd cyn i'r drafodaeth
ddechrau. Y
Cynghorydd W G Lewis - Eitem 6 yr Agenda (Ysgol Gynradd Waunarlwydd) - Personol
a Rhagfarnol gan mai'r ymgeisydd ydw i a gadawodd cyn i'r drafodaeth ddechrau. Swyddog G Champan - Eitem 6 yr Agenda (Ysgol Gynradd Heol Teras) -
Personol gan fy mod yn llywodraethwr yn yr ysgol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl
a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2017 yn gofnod cywir. |
|
Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). PDF 55 KB Cofnodion: Rhoddodd
y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y
rhestr bresennol o swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.) Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag
Llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu
arnynt. PENDERFYNWYD y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w
cymeradwyo: Ysgol
Gynradd Danygraig - Y Cyng. Joe Hale (ailbenodiad) Ysgol
Gynradd Gendros - Y Cyng. Michael Durke Ysgol
Gynradd Penclawdd - Mrs Susan Phillips Ysgol
Gynradd Pen y Fro - Y Cyng. Louise Gibbard (yn destun llofnodi ffurflen gais) Ysgol
Gynradd Plasmarl - Y Cyng. David Hopkins
(ailbenodiad) Ysgol
Gynradd Gatholig Dewi Sant - Mr Chris Law Ysgol
Gynradd Heol Teras - Y Cyng. Erika Kirchner (ailbenodiad) Ysgol
Gynradd y Trallwn - Mrs Susan Bowen Y Cyng. Yvonne Jardine (ailbenodiad) Ysgol
Gynradd Waunarlwydd - Y Cyng. Wendy Lewis Ysgol
Gyfun Tregŵyr - Miss Kelly Small Ysgol
Gyfun Treforys - Y Cyng. Robert Francis-Davies (ailbenodiad) Ysgol
Gyfun yr Olchfa - Y Cyng. Mike Day (ailbenodiad) Ysgol
Gyfun Bryn Tawe - Mr Adrian Lauren |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.) Cofnodion: Rhoddodd
Swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth"
ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. |