Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddiannau canlynol: Mr
J Bowen - Eitem 6 yr Agenda (Ysgol Gynradd Casllwchwr) - Personol a niweidiol -
fel Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol ac fe adawodd cyn i'r drafodaeth
ddechrau. Y
Cynghorydd D G Sullivan - Eitem 7 yr Agenda (1) - Personol - Rwy'n adnabod un
o'r ymgeiswyr (fel y cyhoeddwyd yn flaenorol) |
|
Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 20 Ebrill
2017 yn gofnod cywir. |
|
Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). PDF 59 KB Cofnodion: Rhoddodd
y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y
rhestr bresennol o swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.) Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag
Llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu
arnynt. PENDERFYNWYD y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w
cymeradwyo: Ysgol Gynradd Brynmill - y Cynghorydd Peter May (Ailbenodiad) Ysgol Gynradd Casllwchwr - Mr
John Butler (Ailbenodiad) (Sylwer: bu Mr J Lee (Is-Gadeirydd) yn llywyddu ar gyfer yr
eitem hon yn unig.) Ysgol Gynradd y Glais - Mr Mark
James (Ailbenodiad) Ysgol Gynradd Hendrefoelan - Mrs Kathryn Novis Ysgol Gynradd Treforys - Mr
Stephen Griffiths Ysgol Gynradd Sgeti - Mrs Deborah
Monaghan Ysgol Gynradd Gadeiriol San
Joseff - Mr Joseph Blackburn Ysgol
Gynradd Waun Wen - Mrs Jeanette Simpson Ysgol
Gyfun Gellifedw - Mrs Catherine Watkins Ysgol
Gymunedol Dylan Thomas - Mr Dereck Roberts a Mrs Ann
Cook (Ailbenodiadau) Ysgol
Gyfun Treforys - Mr Graham Hanford (Ailbenodiad) YGG
Bryn-y-môr - Mrs Angharad Brown (Ailbenodiad) a
Mrs Saran Thomas YGG Lôn-las - y Parch Eirian Wyn (Ailbenodiad) YG Gŵyr - Miss Aldyth Williams (Ailbenodiad) |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.) Cofnodion: Rhoddodd
Swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth"
ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. |