Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddiannau canlynol: Y
Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif 113 – ceisiadau i fod yn Llywodraethwr yr
ALl a gedwir ar ffeil – mae person sydd wedi fy nghyfeirio at yr Ombwdsmon
wedi'i gynnwys ar y rhestr wrth gefn – personol. |
||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo,
fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 26 Ionawr
2017 yn gofnod cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||
Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). PDF 56 KB Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er
gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl. |
||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Gofynnwyd
i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau
busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd
y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD
y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
||||||||||||||||||||||||||||
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.) Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag
Llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt. PENDERFYNWYD y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w
cymeradwyo:
|
||||||||||||||||||||||||||||
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.) Cofnodion: Rhoddodd
swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth"
ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar
ffeil. NODWYD sylwadau'r aelodau o ran y weithdrefn ddethol. Dywedodd y Cadeirydd fod y weithdrefn wedi'i
thrafod yn y gorffennol a bod y panel wedi cytuno ar y polisi. |