Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddion canlynol: Gemma
Chapman – Eitem Rhif 100 - Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl (I'w
hargymell) - Wedi bod yn arsylwi ar y Panel
wrth aros i'w chais am swydd llywodraethwr gael ei gymeradwyo. Gadawodd Gemma Chapman y cyfarfod cyn i'r
eitem gael ei thrafod. |
||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2016 yn gofnod cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||
Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). PDF 56 KB Cofnodion: Rhoddodd
y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y
rhestr bresennol o swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl. |
||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
||||||||||||||||||||||||||||
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.) Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag
Llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu
arnynt. PENDERFYNWYD: Y dylai'r enwebiadau
canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo:
|
||||||||||||||||||||||||||||
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.) Cofnodion: Rhoddodd
Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth"
ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. |