Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: . Yn unol â'r
Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif 95 – fel a ddatganwyd eisoes. |
|
To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl
a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2016 yn gofnod cywir. |
|
Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). PDF 54 KB Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a
Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" am y rhestr bresennol o
swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd Panel Llywodraethwyr yr ALl Brawf Budd
y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD gwahardd y
cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. SESIWN GAEEDIG |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.) Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr
adroddiad ar y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt. CYTUNWYD: 1) Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w
cymeradwyo: Ysgol
Gynradd Cilâ – Mrs Helen Richards Ysgol
Gynradd Clwyd – y Cynghorydd Terry Hennegan (ailbenodiad) Ysgol
Gynradd y Glais – Mrs Claire Abraham YGG
Tan-y-lan – Mr Gari Lewis (ailbenodiad) Ysgol
Gyfun Tregŵyr – Mr Gerald Frances Keating |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.) Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr
adroddiad "er gwybodaeth" am y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn
Llywodraethwyr yr ALl a gedwir
ar ffeil. |