Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

84.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif 88 – Ysgol Gynradd Gwyrosydd – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd a gadewais cyn y drafodaeth a chofnod rhif 89  – fel a ddatganwyd eisoes.

 

Y Cynghorydd L G Thomas – Cofnod Rhif 88 – Ysgol Gynradd Burlais – Rwy'n un o'r ymgeiswyr a gadewais cyn y drafodaeth.

 

85.

Cofnodion. pdf eicon PDF 67 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016 yn gofnod cywir.

86.

Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016 yn gofnod cywir.

87.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i Banel Llywodraethwyr yr ALl wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd Panel Llywodraethwyr yr ALl Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

88.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cynorthwyol a'r Swyddog Derbyniadau y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt.

 

CYTUNWYD:

 

1) Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo:

 

Ysgol Gynradd Brynmill - Mr Hywel Vaughan

 

Ysgol Gynradd Burlais - Y Cyng. Peter Black, y Cyng. Chris Holley, y Cyng. Graham Thomas a Mrs Julie Palmer (pob un yn ailbenodiad)

 

Ysgol Gynradd Gwyrosydd - Mr Terrence Jones (ailbenodiad)

 

Ysgol Gynradd Gorseinon - Mr John Williams (ailbenodiad) a Mrs Andrea Thomas

 

Ysgol Gynradd Penllergaer - Mr Andrew Crowley

 

YGG Geliionnen - Mr Darren James (ailbenodiad)

 

Ysgol Crug Glas - Mr Quentin Hawkins (ailbenodiad)

 

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas - Y Cyng. Lesley Walton

 

89.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cynorthwyol a’r Swyddog Derbyniadau adroddiader gwybodaethar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil.