Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

78.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif: 83 – fel a nodwyd yn flaenorol.

79.

Cofnodion. pdf eicon PDF 61 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 25 Awst 2016 yn gofnod cywir.

80.

Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" am y rhestr bresennol o swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl.

81.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i Banel Llywodraethwyr yr ALl wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhelliad yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraffau gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd Panel Llywodraethwyr yr ALl Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

                                                

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

82.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.)

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt.

 

CYTUNWYD:

 

1) Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo:

 

Ysgol Gyfun yr Esgob Gore - Mrs Margaret (Peggy) George (ailbenodi)

 

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe – Mr David Meirion Howells (cais newydd).

83.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.)

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" am y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil.