Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

72.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd J W Jones – Cofnod Rhif 76 – Personol a Rhagfarnol - am gael ei ail-benodi'n llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Dyfnant ac Ysgol Gyfun yr Olchfa.  Gadawodd y Cynghorydd J W Jones y cyfarfod cyn ystyried pob un o'r eitemau.

73.

Cofnodion: pdf eicon PDF 65 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir.

74.

Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 55 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl.

75.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i Banel Llywodraethwyr yr AALl wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd Panel Llywodraethwyr yr ALl Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

76.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt.

 

CYTUNWYD:

 

1) Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo:

 

Ysgolion Cynradd Saesneg:

Ysgol Gynradd y Clâs

-

Y Cyng. Gloria Tanner

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Dyfnant

-

Y Cyng. Jeff Jones

Ail-benodi

Ysgol Gynradd y Glais

-

Mr Ken Tucker

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Gors

-

Mrs Isobel Norris

 

Ysgol Gynradd Knelston

-

Y Cyng. Richard Lewis

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Portmead

-

Y Cyng. June Burtonshaw

Ail-benodi

Ysgol Gynradd San Helen

-

Mr Alan Lloyd

Ail-benodi

Ysgol Gynradd St Thomas

-

Y Cyng. Joe Hale

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Heol Teras

-

Y Cyng. Sybil Crouch

Ail-benodi

Ysgol Gynradd Townhill

-

Y Cyng David Hopkins

 

Ysgol Gynradd Waunarlwydd

-

Y Cyng Andrew Jones

Ail-benodi

 

 

Mr Adrian Rees

Ail-benodi

 

Ysgolion Cynradd Cymraeg:

YGG y Login Fach

-

Y Cyng Andrew Jones

Ail-benodi

 

Ysgolion Uwchradd Saesneg:

Ysgol Gyfun Gellifedw

-

Y Cyng. Ryland Doyle

Ail-benodi

Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

-

Miss Claire Waller

Ail-benodi

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

-

Mr Philip Jones

Ail-benodi

Ysgol Tregŵyr

-

Y Cyng. Susan Jones

Ail-benodi

Ysgol yr Olchfa

-

Y Cyng. Jeff Jones

Ail-benodi

Ysgol Gyfun Pentrehafod

-

Mrs Margaret Hughes

Ail-benodi

Ysgol Gyfun Pontarddulais

-

Y Cyng. Jane Harris

Ail-benodi

 

-

Mr John Miles

Ail-benodi

 

77.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.)

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil.