Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

60.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif: 64 – fel a nodwyd yn flaenorol.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif: 64 – rwy'n adnabod un o'r ymgeiswyr.  Gadawodd y Cynghorydd D G Sullivan cyn ystyried yr eitem.

 

Y Cynghorydd V M Evans – Cofnod Rhif: 64 – Personol – rwy'n adnabod un o'r ymgeiswyr.  Gadawodd y Cynghorydd V M Evans y cyfarfod cyn ystyried yr eitem.

61.

Cofnodion: pdf eicon PDF 56 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2016 yn gofnod cywir.

62.

Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl.

63.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 sy'n berthnasol i'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd Panel Llywodraethwyr yr ALl Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

64.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt.

 

CYTUNWYD:

 

1) Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo:

 

Ysgol  Gynradd Craigcefnparc - Mrs Cathy Vince

 

Ysgol Gynradd y Grange – Mr Stuart Lynch

 

Ysgol Gynradd Pentre’r graig - Mr Michael John Fuge

 

Ysgol Gynradd Plasmarl - Mr Colin Goulding

 

YGG Bryniago - Mr Lee Richards

 

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt - Mr Jordan Hill

65.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.)

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil.