Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

13.

Cofnodion. pdf eicon PDF 102 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

14.

Diogelwch Personol i Gynghorwyr. pdf eicon PDF 173 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi arweiniad i gynghorwyr ar faterion Diogelwch Personol a Gweithio ar eich Pen eich Hun.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi arweiniad defnyddiol er mwyn i gynghorwyr ddeall y camau y dylent eu cymryd i sicrhau eu diogelwch personol. 

 

Atodwyd Polisi Gweithio ar eich Pen eich Hun yr awdurdod sy'n berthnasol i gynghorwyr a swyddogion fel Atodiad A i'r adroddiad. Atodwyd arweiniad defnyddiol ynghylch Diogelwch Personol Cynghorwyr fel Atodiad B i'r adroddiad.

 

Trafododd y pwyllgor yr ymagweddau ymarferol gwahanol mewn perthynas â diogelwch personol a rhannodd rai syniadau defnyddiol megis y rheiny mewn wardiau gydag un aelod etholedig yn unig yn cyfuno eu cymorthfeydd gyda chyfarfodydd PACT lleol neu'n cwrdd ag etholwyr mewn lle cyhoeddus megis llyfrgell, canolfan gymunedol neu hyd yn oed cymhorthfa stryd.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid trefnu cwrs hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr er mwyn eu helpu i fynd i'r afael â phobl emosiynol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r ddogfen "Diogelwch Personol - Arweiniad i Gynghorwyr", a'i rhoi ar wefan yr awdurdod a'i e-bostio at bob cynghorydd;

 

2)              Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o drefnu hyfforddiant ar fynd i'r afael â phobl emosiynol.