Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Is-Gadeirydd ar Gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Wendy Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

2.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 215 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2018 fel cofnod cywir

4.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 2017-2018. pdf eicon PDF 154 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad "er gwybodaeth" am Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd 2017-2018 ar gyfer y cyfnod 25 Mai 2017 tan 23 Mai 2018. Roedd yr adroddiad yn amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw. Amlygwyd diwygiad arfaethedig i ddileu Paragraff 4 o'r adroddiad ac fe'i cymeradwywyd gan y pwyllgor. Roedd yr wybodaeth a gafwyd ym Mharagraff 4 yr adroddiad ar gael ar-lein. 

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'r diwygiadau.

5.

Adolygiad o Lwfansau Band Eanf a Ffôn, TGCh a Ffonu Symudol Cynghorwyr - Mai 2017 a'r tu hwnt. pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i adolygu 'Polisi Lwfansau Band Eang a Ffôn, TGCh a Ffonau Symudol Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt' a fabwysiadwyd gan y Cabinet ar 15 Rhagfyr 2016.

 

Trafododd y pwyllgor yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·                Cyhoeddi rhifau ffonau symudol Aelodau'r Cabinet;

·                Gwall argraffu yn Argymhelliad 8 - dylid mewnosod y rhif 6 rhwng 4 a'r flwyddyn ar y llinell gyntaf;

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r Cabinet i'w mabwysiadu (yn amodol ar y diwygiadau a amlygwyd gan y pwyllgor): -

 

1)

Ailenwi'r polisi yn "Bolisi Lwfansau Gwybodaeth, Cyfathrebu a Thechnoleg (TGCh) Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt" neu "Polisi TGCh Cynghorwyr -Mai 2017 a'r Tu Hwnt" yn fyr.

 

 

2)

Ychwanegu'r nodyn canlynol at Baragraff 5.3 y polisi:

 

1)      Cyfanswm Lwfansau TGCh Cynghorwyr dros gyfnod o 5 mlynedd yw £1,808.  Gellir gwario'r swm hwn ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod 5 mlynedd ar yr amod bod lwfansau'n cael eu hawlio gan ddefnyddio Ffurflen Hawlio Lwfans TGCh Cynghorwyr/Aelodau Cyfetholedig, a chyda derbynebau perthnasol.

 

2)      Rhaid i unrhyw wariant dros £200 yn ystod blwyddyn derfynol y cyfnod yn y swydd gael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd â'r Prif Swyddog Trawsnewid.  Mae'n bosib y byddant yn edrych ar atebion dros dro megis darparu dyfeisiau TGCh sy'n eiddo i'r awdurdod.

 

 

3)

Ychwanegu'r amod canlynol at Baragraff 6.1 yr adroddiad:

 

“c)    Rhaid i gynghorwyr sy'n derbyn elfen ffôn Lwfans Band Eang a Ffonau'r Cynghorwyr ganiatáu i'w rhif ffôn gael; ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo yn ôl yr angen, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

 

 

4)

Ailddrafftio paragraff 6.4 y polisi er mwyn caniatáu i bob cynghorwr yn yr un aelwyd dderbyn y Taliad Lwfans Data ond bod yr aelwyd honno'n cael ei chyfyngu i un lwfans band eang;

 

 

5)

Ailenwi'r "Lwfans Band Eang a Ffôn" yn "Lwfans Data a Ffôn";

 

 

6)

Dileu paragraff 7.5 y polisi ac ailrifo'r adran yn unol â hyn.

 

 

7)

Diwygio paragraff 7.1 y polisi fel a ganlyn, gydag ail amod yn cael ei ychwanegu hefyd;

 

"7.1 Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn talu Lwfans Ffôn Symudol Cynghorwyr misol i gynghorwyr sy'n gymwys er mwyn cyfrannu at eu biliau ffôn symudol oherwydd y cynnydd yn y defnydd ohonynt ar gyfer busnes y cyngor, ar yr amod bod:

 

a) Cynghorwyr yn darparu prawf blynyddol o'u contract ffôn symudol i Swyddfa’r Cabinet/Dîm y Gwasanaethau Democrataidd.

 

b) Cynghorwyr sy'n derbyn Lwfans Ffôn Symudol Cynghorwyr yn gorfod caniatáu i'w rhif ffôn symudol gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo fel y bo'r angen ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

 

 

8)

Ychwanegu'r nodyn canlynol at Baragraff 9.4 y polisi:

 

Sylwer:

1)      Cyfanswm lwfansau TGCh Aelodau Cyfetholedig dros gyfnod o 4 blynedd a blwyddyn yw £361.60 a £441.60 yn eu tro. Gellir gwario'r swm hwn ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod 4 i 6 blynedd ar yr amod yr hawlir lwfansau gan ddefnyddio Ffurflen Gais Lwfans TGCh Aelodau Cyfetholedig a chyda derbynebau perthnasol;

2)      Rhaid i unrhyw wariant dros £40 yn ystod blwyddyn olaf cyfnod yn y swydd gael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd â'r Prif Swyddog Trawsnewid. Efallai byddant yn edrych ar atebion dros dro megis darparu dyfeisiau TGCh sy'n eiddo i'r awdurdod.

 

 

9)

Ychwanegu paragraff 9.7 at y polisi fel a ganlyn:

 

"9.7 Rhaid i Aelodau Cyfetholedig sy'n derbyn elfen ffôn y Lwfans Band Eang a Ffôn i Aelodau Cyfetholedig ganiatáu i'w rhif ffôn gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo yn ôl yr angen ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

 

6.

Cyfryngau Cymdeithasol - Canllaw i Gynghorwyr - Ddrafft Cyntaf CLlLC. pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i geisio sylwadau ac awgrymiadau mewn perthynas â dogfen Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru "Cyfryngau Cymdeithasol - Canllaw i Gynghorwyr".

 

Atodwyd y ddogfen ddrafft fel Atodiad A.

 

Ar ôl trafodaethau, gwnaed y sylwadau canlynol ar y ddogfen ddrafft, "Cyfryngau Cymdeithasol - Canllaw i Gynghorwyr".

 

·                Dylid diwygio paragraff olaf y Rhagymadrodd i gynnwys y gair 'peth' ar ôl cynnig a chyn cyngor i helpu i egluro nad yw'r cyngor hwn yn gyflawn a bod mwy o gyngor ar gael os oes angen.

·                Dylid diwygio pennawd Paragraff 2 "Pam y byddwch o bosib yn gweld cyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol" i rywbeth sy'n llai cyfarwyddol megis 'Pam y gall cyfryngau cymdeithasol fod yn ddefnyddiol i chi'

·                Awgrymwyd y gellid darparu mwy o gyngor o ran Facebook, yn enwedig cyngor ar sut i reoli'ch grwpiau rheoli proffil yn ogystal â mwy o arweiniad ar rannu pyst.

·                Tynnwyd sylw at y ffaith fod y paragraffau canlynol yn arbennig o ddefnyddiol: -

Ydych chi’n rheoli’ch cyfryngau cymdeithasol ynteu ydyn nhw’n eich rheoli chi?; a

Pharagraff 9 - 'Cadw'r ochr iawn i'r gyfraith...'

 

Penderfynwyd rhoi gwybod i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am sylwadau'r pwyllgor.

7.

Cynllun Gwaith 2018-2019.

Cofnodion:

Trafododd y pwyllgor eitemau posib ar gyfer Cynllun Gwaith 2018/19. Trafododd y pwyllgor weithio digidol a chyfyngiadau deddfwriaethol cyfredol ar fideo-gynadledda ar gyfer pwyllgorau.

 

Cynigiodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd hyfforddiant posib i'r pwyllgor ar y system Modern.Gov, a dywedodd fod y cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 9 Hydref 2018.