Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

23.

Cofnodion. pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

24.

Adolygiad o Dempled Adroddiad Blynyddol Cynghorwyr. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio adolygu Templed Adroddiad Blynyddol Cynghorwyr er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben a'i fod yn osgoi unrhyw ddyblygu.

 

Amlinellodd y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n gysylltiedig ag Adroddiadau Blynyddol Cynghorwyr a chyfeiriodd at yr arweiniad statudol.

 

Trafododd y pwyllgor y broses y mae'r cynghorwyr yn ei dilyn wrth gwblhau'r adroddiadau blynyddol ac awgrymwyd y dylai'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd gael ei hysbysu am unrhyw sesiynau hyfforddi a gynhelir gan gynghorwyr ac nid gan yr awdurdod, fel ei fod yn gallu cael ei gynnwys yn adran hyfforddiant gwe-dudalen y cynghorwyr unigol.

 

Cefnogwyd diwygio'r gwe-ddolenni yn adrannau 2 a 5 yn llwyr gan y pwyllgor.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu templedi diwygiedig yr Adroddiad Blynyddol Cynghorwyr.

25.

Adolygiad o Lawlyfr Cynghorwyr (Adrannau B a C). pdf eicon PDF 196 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio adolygu Llawlyfr y Cynghorwyr er mwyn gwneud ei gynnwys yn fwy effeithlon a symud tuag at fersiwn ddigidol yn unig.

 

Roedd yr adroddiad hwn ym ymdrin â gweddill Llawlyfr y Cynghorwyr, sef Adran B, "Gwasanaethau Cefnogi", ac Adran C, "Protocolau". Ystyriwyd a chymeradwywyd Adrannau A a D yn flaenorol gan y cyngor.

 

Trafodwyd materion megis yr angen i gynghorwyr groesawu TGCh, ynghyd â'r ffaith bod technoleg yn datblygu'n gyflym a bod cynghorwyr yn ceisio bod yn gyfredol.  Penderfynwyd darparu sesiynau galw heibio neu un i un ar sut i ddefnyddio offer megis Office 365 i'r rhai y mae angen hyfforddiant ychwanegol arnynt.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo llawlyfr diwygiedig y cynghorwyr i'r cyngor i'w fabwysiadu,

 

2)       Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cynorthwyo'r Tîm Hyfforddi wrth iddynt holi cynghorwyr a oes angen hyfforddiant TGCh arnynt.

26.

Y Diweddaraf am We-ddarlledu a Phleidleisio'n Electronig. pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn hysbysu'r pwyllgor am y cynnydd mewn rhoi gweddarlledu ac e-bleidleisio ar waith.

 

Gweddarlledu

 

Ceisiodd yr awdurdod ddyfynbrisiau ar gyfer cyflwyno, gosod a chynnal a chadw gwasanaeth gweddarlledu yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas ar wefan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Derbyniwyd tri dyfynbris a Civico oedd y tendr llwyddiannus.  Contract ar gyfer un flwyddyn yw hwn gyda'r opsiwn o'i ymestyn am hyd at 60 o fisoedd ychwanegol.  Mae trafodaethau'n parhau o ran y dyddiad pan fydd y gwasanaeth gweddarlledu'n mynd yn fyw, ond mae'n debygol o fod yn ystod haf 2018.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y bydd dolenni uniongyrchol ar gael i alluogi gwylwyr i ddewis eitem benodol mewn cyfarfod.  Hefyd, trafodwyd pa mor hir y bydd y gweddarllediad ar gael i'w weld ynghyd ag archifo'r darllediadau.  Bydd yn ceisio mwy o arweiniad ynglŷn â chopio neu ddefnyddio unrhyw ddarllediad neu ran o ddarllediad gan drydydd parti.

 

e-bleidleisio

 

Gall system feicroffon yr awdurdod ar gyfer cynrychiolwyr yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas gael ei defnyddio ar gyfer e-bleidleisio.  Mae Arweinydd y Cyngor a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn rhagweld y bydd y system e-bleidleisio'n cael ei threialu cyn bo hir ar gyfer cyfarfodydd y Cabinet ac, wedi hynny, bydd ar gael ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio, pwyllgorau eraill a'r cyngor cyfan yn y pendraw.

 

Mae'n rhaid cynnal mwy o drafodaethau er mwyn penderfynu ar yr hyn a fydd yn cael ei ddangos ar y sgrîn yn dilyn pob pleidlais mewn cyfarfod. 

 

O hyn ymlaen, bydd cofnodion y cyfarfodydd yn cynnwys y rhai sy'n gymwys i bleidleisio'n unig, a'r rhai sy'n pleidleisio os gofynnir am bleidlais hysbys fel a amlinellir yn Rheol 30.2 Gweithdrefn y cyngor.  Fodd bynnag, bydd dadansoddiad o bleidleisiau pob unigolyn yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn unol ag adroddiad Datganiad Ymrwymiadau Polisi Dinas a Sir Abertawe, a fabwysiadwyd gan y cyngor ar 27 Gorffennaf 2017.