Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor
y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir. |
|
Amser cyfarfodydd y cyngor - Arolwg. PDF 155 KB Cofnodion: Darparodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad am ganlyniad Arolwg y Cynghorwyr
ar Amseru Cyfarfodydd y Cyngor. Mae Adran 6 Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gofyn bod yr awdurdod yn cynnal arolwg o
gynghorwyr ynghylch amser ac amlder cyfarfodydd y cyngor o leiaf unwaith yn
ystod pob tymor y weinyddiaeth. Yn dilyn yr
etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017, bernir ei bod hi'n briodol i
beidio â chynnal yr arolwg hwn yn syth ar ôl yr etholiad er mwyn caniatáu peth
amser i'r cynghorwyr ddeall gofynion bod yn gynghorydd a'r ymrwymiad amser
angenrheidiol. Oherwydd hynny, gohiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr
arolwg tan 21 Rhagfyr 2017, gyda'r arolwg yn dod i ben ar 12 Ionawr 2018. Amlinellwyd yr
arolwg, a gwblhawyd gan 60 allan o'r 72 o gynghorwyr, a'r canlyniadau yn
Atodiad B yr adroddiad. Trafododd y
pwyllgor y materion amrywiol a all effeithio ar bresenoldeb cynghorwyr mewn
cyfarfodydd, megis cyflogaeth, cyfrifoldebau gofal, iechyd a chludiant
gyhoeddus. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd unwaith eto fod y
cynghorwyr yn gallu hawlio hyd at £403 y mis fel ad-daliad o gostau gofal.
Anogodd y cynghorwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu i ddefnyddio'r cyfleuster
hwn. Cydnabu'r
cynghorwyr na fyddai amserau'r cyfarfodydd yn addas i bawb yn anffodus, felly
penderfynwyd mai'r cam gweithredu mwyaf addas fyddai i barhau â'r fformat
presennol a chaniatáu i bob aelod o'r pwyllgor ystyried amseriad ei gyfarfodydd
yng nghyfarfod cyntaf pob pwyllgor. Nodwyd y byddai'r pwyllgor yn gallu newid
amser y pwyllgor yn unig, ac nid y diwrnod. Penderfynwyd: 1)
Y
dylid nodi'r adroddiad; 2)
Drafftio
dyddiadur y cyngor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019 gan gynnal fformat
dyddiadur Blwyddyn Ddinesig 2017-2018; 3) Y bydd "Amser cyfarfodydd y dyfodol" yn eitem safonol ar yr agenda yng nghyfarfod cyntaf pob pwyllgor. |
|
Adroddiadau Blynyddol Cynghorwyr 2016-2017. (Diweddariad ar lafar) Cofnodion: Darparodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y diweddaraf ar lafar ar nifer yr
adroddiadau blynyddol gan gynghorwyr a dderbyniwyd ar gyfer blwyddyn ddinesig
2016-2017. Hyd yn hyn, roedd
42 allan o 53 o gynghorwyr sy'n dychwelyd wedi cwblhau adroddiad
blynyddol. Bydd y rhain yn cael eu
cyhoeddi ar-lein maes o law. Nid oedd y
cynghorwyr a etholwyd am y tro cyntaf ym mis Mai 2017 yn gymwys i gwblhau
adroddiad blynyddol ar gyfer 2016-2017 gan nad oeddent yn gynghorwyr yn ystod y
cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, roedd nifer o
gynghorwyr newydd eu hethol wedi cyflwyno paragraff byr am eu gweithgareddau a
gyflawnwyd ers eu hethol, a oedd wedi'i gyhoeddi yn yr adran "amdanaf
i" ar eu tudalen ar wefan y cyngor.
Gallai pob cynghorydd newydd eu hethol yn 2017 ddefnyddio'r cyfleuster
hwn. Aeth Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd ymlaen i ddatgan y byddai'n hysbysu'r pwyllgor am y
ffigurau terfynol yn y cyfarfod nesaf.
Byddai'r pwyllgor hefyd yn adolygu fformat yr Adroddiad Blynyddol gan
nad oeddem wedi ystyried hyn ers ei weithredu yn 2012. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Addewid Cynghorwyr ar Safonau. (Diweddariad ar lafar) Cofnodion: Adroddodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod 61 allan o 72 o gynghorwyr wedi
llofnodi Addewid y Cynghorydd ar Safonau. Byddai'r
ffurflenni hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Protocol Datrys Anghydfod Lleol rhwng Cynghorwyr. (Diweddariad ar lafar) Cofnodion: Adroddodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod 69 allan o 72 o gynghorwyr wedi
llofnodi'r Protocol Datrys Anghydfodau Lleol rhwng Cynghorwyr. Roedd yn
obeithiol y byddai'r 3 cynghorydd sy'n weddill hefyd yn llofnodi maes o law. Byddai'r
ffurflenni'n cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Cynllun Gwaith. Cofnodion: Adroddodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod 69 allan o 72 o gynghorwyr wedi
llofnodi'r Protocol Datrys Anghydfodau Lleol rhwng Cynghorwyr. Roedd yn
obeithiol y byddai'r 3 cynghorydd sy'n weddill hefyd yn llofnodi maes o law. Byddai'r
ffurflenni'n cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |