Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R A Clay, J Hale, E T Kirchner a T Meredith, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a'r Swyddog Monitro Dros Dro. |
|||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2016 fel cofnod cywir. |
|||||||||
Defnydd o feddalwedd Modern.gov gan y Tîm Craffu. PDF 63 KB Cofnodion: Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn
amlinellu pryd byddai'r tîm craffu'n dechrau defnyddio meddalwedd Modern.gov. Esboniodd fod materion pwysicach wedi dod i'r amlwg cyn cyflwyno'r
adroddiad a bod y cyngor yn ei gyfarfod ar 24 Tachwedd 2016 wedi ystyried yr
adroddiad 'Lwfansau band eang a ffôn, TGCh a ffonau
symudol Cynghorwyr - mis Mai 2017 a'r tu hwnt'.
Yn ystod y drafodaeth ar yr eitem honno, ychwanegwyd argymhelliad arall
a oedd yn nodi y byddai holl agendâu, adroddiadau'r tîm Craffu etc. yn
defnyddio meddalwedd Modern.gov erbyn mis Mai 2017. Penderfynodd y cyngor
dderbyn yr argymhelliad ychwanegol. Byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu i'r Tîm Craffu yn y flwyddyn newydd
i sicrhau eu bod yn hyddysg yn y defnydd o system feddalwedd Modern.gov cyn mis
Mai 2017. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||||||
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 19 Mai 2015 - 18 Mai 2016. PDF 124 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol y
Gwasanaethau Democrataidd 2015-2016 a oedd yn amlinellu gwaith y pwyllgor yn
ystod y cyfnod 19 Mai 2015 - 18 Mai 2016. PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a'i anfon ymlaen i’r Cyngor er gwybodaeth. |
|||||||||
Cynllun Gwaith. Cofnodion: Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y bwriedid cynnal y cyfarfod nesaf
ar 28 Mawrth 2017; fodd bynnag, roedd yn debygol y byddai cyfarfod arbennig yn
cael ei alw ymlaen llaw i ystyried eitemau fel Rhaglen Sefydlu Cynghorwyr 2017. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynllun gwaith ar gyfer
2016-2017 fel a ganlyn:
|