Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R A Clay, J P Curtice a D J
Lewis. ] |
|||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorwyr P Black, A C S Colburn, N J Davies, J A Hale, E T Kirchner, K E Marsh ac L V Walton fudd personol yng Nghofnod 12, "Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2017 - 2018 - Ymgynghoriad" gan y bydd pob cynghorwr yn elwa o'r cynnydd arfaethedig gwerth £100 i'r cyflog sylfaenol. |
|||||||
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD
cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a
gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2016 fel cofnod cywir. Materion yn Codi: Cofnod 6 - Hunanwasanaeth i Gynghorwyr Gofynnodd y Cadeirydd am yr wybodaeth ddiweddaraf o ran penderfyniad 2 -
mae angen ychwanegu'r paneli Craffu ac agweddau eraill ar y broses graffu at y
system feddalwedd Modern.gov. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod rhai trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r Rheolwr
Craffu, fodd bynnag, roeddent yn parhau i ddefnyddio fformat arall i gyhoeddi
cyfarfodydd y Panel Ymchwiliad Craffu a'r Gweithgor. Nodwyd fodd bynnag bod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn cael ei gyhoeddi drwy feddalwedd Modern.gov, ac
roedd modd cael mynediad iddo drwy'r ap. PENDERFYNWYD y dylid cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gan amlinellu pryd bydd y Paneli Ymchwilio Craffu, etc., yn cael eu cysylltu â'r meddalwedd Modern.gov, a brynwyd gan yr awdurdod, gan fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn awyddus i ddefnyddio un llwyfan ar gyfer cyhoeddiadau agendâu perthnasol. |
|||||||
Lwfansau Band Eang, Ffôn, TGCh a Ffôn Symudol i Gynghorwyr - Mai 2017 ac wedi hynny. PDF 162 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, y Prif Swyddog Trawsnewid
a'r Rheolwr Perfformiad Strategol TGCh adroddiad a
geisiodd adolygu'r polisi "TGCh Cynghorwyr - mis
Mai 2012 a'r tu hwnt", gan sicrhau felly bod pob Cynghorydd yn derbyn
darpariaeth TGCh sy'n addas ar gyfer ei anghenion, ac
sy'n cydymffurfio â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol (PACGA). Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y pynciau canlynol: ·
Darparu
cyngor ac arweiniad mewn perthynas â phecynnau cefnogi TGCh
amrywiol sydd ar gael, a rhoi gwybodaeth am ddyfeisiau cydnaws ym mhecyn
sefydlu cynghorwyr 2017. Darparu seminarau/sesiynau hyfforddiant o ran sut i
weithredu dyfeisiadau. Bod yr wybodaeth yn cael ei hailadrodd drwy gydol y
cyfnod swydd 5 mlynedd o ganlyniad i ddatblygiadau technolegol; ·
Byddai'r
ddesg gymorth TGCh yn parhau i gynorthwyo Cynghorwyr
gyda materion sy'n ymwneud â meddalwedd yr awdurdod/materion rhwydwaith; ·
Gosodwyd
Windows 10 ar liniaduron, fodd bynnag roedd Windows 7 yn dal i gael ei
ddefnyddio ar gyfrifiaduron pen desg. PENDERFYNWYD y
byddai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi'r adroddiad a'i
argymhellion, ac yn argymell ei fod yn cael ei fabwysiadu gan y Cabinet fel a
ganlyn: 1) Anfon yr adroddiad at y cyngor cyn y
Cabinet er mwyn derbyn unrhyw sylwadau
ychwanegol gan Gynghorwyr; 2) Parhau â'r trefniadau presennol o
ran Cynghorwyr yn prynu eu hoffer TGCh eu hunain; 3) Nodi bod angen mynediad i
Office 365 er mwyn galluogi technoleg y cwmwl er mwyn creu system rhannu
gwybodaeth fwy diogel a gwydn, yn amodol ar gyfnod prawf llwyddiannus; 4) Nodi lwfans TGCh
y Cynghorwyr fel a amlinellwyd yn yr adroddiad; 5) Nodi lwfans band eang a ffôn y Cynghorwyr fel a amlinellwyd yn
yr adroddiad; 6) Nodi lwfans ffôn symudol y Cynghorwyr
fel a nodwyd yn yr adroddiad; 7) Nodi cynnwys yr adran sy'n ymwneud â hunanwasanaeth i Gynghorwyr. |
|||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad er mwyn casglu
barn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ynghylch Adroddiad Blynyddol Drafft
2017-2018 Panel Annibynnol Cymru, ac i wneud sylwadau am y penderfyniadau a
wnaed. Byddai'r sylwadau'n llunio adroddiad i'r cyngor wedi'i ddilyn gan ymateb
ffurfiol i'r PACGA erbyn y dyddiad cau sef 28 Tachwedd 2016. PENDERFYNWYD anfon yr
ymatebion a amlinellwyd yn Atodiad A at y cyngor ar yr amod y gwneir
newidiadau/ychwanegiadau canlynol: Penderfyniad 2: 1) Mae'r
awdurdod yn dal i fod yn bryderus am y ddwy lefel o daliadau a grëwyd ym mis
Chwefror 2016 ar gyfer aelodau'r Cabinet a chadeiryddion pwyllgorau. Mae'r
awdurdod yn credu y byddai arweinydd cyngor yn creu cabinet cytbwys gyda
chyfrifoldeb ar y cyd. Nid yw unrhyw Aelod y Cabinet yn fwy neu'n llai pwysig
i'r broses o wneud penderfyniadau. Er bod rhai portffolios yn ymddangos yn llai
nag eraill, bydd y rheiny â lwfansau llai yn wynebu anawsterau gan y gallai
lwfans llai arwain at ganlyniadau mwy llym.
Yn yr un modd, mae'r cyngor wedi creu pwyllgorau gyda llwyth gwaith
cytbwys. 2) Mae DASA'n
nodi nad oes unrhyw newid. Dim sylwadau pellach. Penderfyniad 8: 1)
Disgwylir mwy o eglurhad gan y PACGA.
Mae'n debyg fod penderfyniad 8 yn awgrymu y bydd awdurdodau, yn amodol
ar gymeradwyaeth y PACGA, yn gallu mynd dros eu terfyn cyflog uwch (19 ar hyn o
bryd yn Abertawe) ar yr amod nad yw cyfanswm nifer y cyflogau uwch yn fwy na
50% o'r aelodau. 2) Os
dyma yw'r achos, mae'r awdurdod yn ei gefnogi. Penderfyniad 43: 1) Mae'r
awdurdod yn croesawu penderfyniad y panel
i ddefnyddio'r term "ad-dalu costau
gofal" i ddisodli lwfansau gofal, o ganlyniad i drafodaeth gydag
arweinyddiaeth CLlLC. 2) Mae'r awdurdod yn rhannu pryderon y PACGA
bod y Lwfans Gofal wedi bod yn isel, ac yn derbyn bod hyn yn debygol o fod o
ganlyniad i sensitifrwydd y Lwfans. Mae'r awdurdod felly'n
cefnogi cais y PACGA i ddiwygio "Atodiad 4: Cyhoeddiad o Daliadau
Cydnabyddiaeth - Gofynion y Panel" yr adroddiad blynyddol. Byddai'r diwygiad hwn yn caniatáu'r
awdurdod i: a)
Gyhoeddi
manylion am y symiau a ad-dalwyd i aelodau a enwyd; neu b)
Gyhoeddi
cyfanswm y swm a ad-dalwyd gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn ond nid yw
wedi'i briodoli i unrhyw aelod a enwyd. Fodd bynnag, mae'r awdurdod yn pryderu, heb unrhyw
gefnogaeth gan y Swyddfa Comisiynwyr Gwybodaeth (SCG), y gallai'r
Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) ddweud fod y diwygiad hwn yn ddiystyr oherwydd gellir defnyddio'r ddeddf fel adnodd deddfwriaethol, gan orfodi awdurdod i ryddhau gwybodaeth. Mae'r awdurdod yn
awgrymu bod y PACGA yn trafod gyda'r SCG er mwyn ceisio arweiniad ffurfiol ar y
mater hwn cyn iddo ddod yn fater i'r awdurdod. Adran 11 - Absenoldeb
Salwch i Ddeiliaid Cyflog Uwch Dim penderfyniad: Mae'r
PACGA yn cynnig diwygio'r Fframwaith Rheoliadau Absenoldeb Teuluol er mwyn darparu
trefniadau penodol ar gyfer Deiliaid Cyflog Uwch y maent yn dioddef salwch
tymor hir. Nodwyd y trefniadau yn
Adroddiad Blynyddol Drafft PACGA. Mae'r awdurdod yn croesawu cynigion y panel. |
|||||||
Cynllun Gwaith. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynllun gwaith ar gyfer 2016-2017
fel a ganlyn:
|