Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  01792 636923

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Is-Gadeirydd Ar Gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016 - 2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd N. J. Davies yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

2.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R. A. Clay a J. P. Curtice.

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 70 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2016 fel cofnod cywir.

5.

TGCh Cynghorwyr - mis Mai 2017 ac wedi hynny. pdf eicon PDF 21 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Sarah Caulkin, Prif Swyddog Trawsnewid Dros Dro a Jo Harley, Rheolwr Perfformiad Strategol TGCh, gyflwyniad yn amlinellu darpariaeth TGCh y dyfodol i gynghorwyr o fis Mai 2017.

 

Fe wnaethant amlinellu'r trefniadau presennol, y Strategaeth Ddigidol i Gynghorwyr, yr hyn sy'n gweithio'n dda ar hyn o bryd, ynghyd â'r materion a oedd wedi'u nodi.

 

Y camau nesaf fyddai:

 

·       Mynd i holl gyfarfodydd y grwpiau gwleidyddol i drafod darpariaeth y dyfodol;

·       Adrodd yn ôl i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar 27 Medi 2016 gyda'r argymhellion;

·       Argymhellion i'w hadrodd i'r cyngor ac yna'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2016;

·       Cyflwyno a hyfforddiant yn 2017;

·       Cyflwyno'r strategaeth ddigidol i'r cynghorwyr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi'r cyflwyniad.

6.

Cynghorwyr - Hunanwasanaeth. pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar fwriad yr awdurdod i symud cynghorwyr i becyn Hunanwasanaeth ISIS.

 

Byddai hunanwasanaeth cynghorwyr yn galluogi cynghorwyr i weld a diwygio manylion a gwneud cais am bethau trwy ISIS.  Byddai hyn yn cynnwys:

 

·       Slipiau cyflog, P60 a P11d;

·       Newidiadau i fanylion personol (cyfeiriad, banc, etc.);

·       Trwyddedau parcio ceir;

·       Hawliadau milltiredd a threuliau.

 

Byddai hyfforddiant yn cael ei roi i'r holl gynghorwyr er mwyn rheoli'r broses newid hon.

 

Ar ben hynny, argymhellodd yn gryf y dylai'r holl gynghorwyr dan 75 oed ddewis bod yn rhan o'r cynllun pensiwn cynghorwyr.

 

Cyfeiriodd y cadeirydd at ap Modern.gov a dywedodd ei fod yn defnyddio'r ap hwnnw i ddarllen yr agenda.  Dywedodd ei fod wedi bod yn defnyddio'r ap ers llawer o flynyddoedd ac awgrymodd y dylid ei gyflwyno'n eang i gynghorwyr a'r cyhoedd.  Gallai ap Modern.gov arwain at lai o argraffu.  Hefyd, dywedodd ei fod wedi gofyn i'r Rheolwr Craffu ddefnyddio Modern.gov gan ei bod yn hanfodol iddynt ddefnyddio llwyfan safonol yr awdurdod.

 

Daeth i gasgliad trwy ofyn i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bwysleisio pwysigrwydd defnyddio Modern.gov i'r Rheolwr Craffu a hefyd y dylid cynnig dewis i'r cynghorwyr beidio â chael copi caled o agendâu.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad;

 

2)              Y dylid ychwanegu'r paneli craffu ac agweddau eraill ar y broses graffu at system Modern.gov;

 

3)              Y dylai'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gysylltu â'r holl gynghorwyr er mwyn eu hannog i ddewis peidio â chael copïau caled o agendâu a chroesawu fformat digidol Modern.gov.

7.

Cynllun Gwaith.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynllun gwaith ar gyfer 2016-2017 fel a ganlyn:

 

27 Medi 2016

TGCh Cynghorwyr - mis Mai 2017 a'r tu hwnt

27 Medi 2016

Rhaglen Sefydlu Cynghorwyr 2017

20 Rhagfyr 2016

Rhaglen Sefydlu Cynghorwyr 2017