Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel
y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd
y cyhoedd ar gyfer yr eitemau canlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol. Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor apêl gan rieni'r disgybl a amlinellir yn yr adroddiad. Cyflwynwyd yr
apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am gludiant am ddim
o'i gyfeiriad cartref i Ysgol Gyfun Tre-gŵyr. Cyflwynodd
rhieni'r disgybl sylwadau llafar i'r Pwyllgor i gefnogi’u cyflwyniadau
ysgrifenedig gan amlinellu amgylchiadau penodol eu hapêl a oedd yn ymwneud ag
anabledd ac anghenion addysgol arbennig y plentyn a’i amgylchiadau teuluol. Amlinellwyd yn
arbennig broblemau difrifol oherwydd pandemig
COVID-19 o ran cysylltu â swyddogion yn yr adran Addysg a hefyd gael yr ohebiaeth
ysgrifenedig gywir sy'n ymwneud â'r disgybl. Gwnaeth
swyddogion yr adrannau Addysg a Chludiant sylwadau llafar hefyd i gefnogi’u
cyflwyniadau ysgrifenedig. Amlinellwyd i’r
pwyllgor y math o gludiant am ddim y mae'r awdurdod yn ei ddarparu'n gyffredinol
i ddisgyblion ysgolion uwchradd a'i brif wahaniaethau i ddarpariaeth cludiant i
ysgolion cynradd gan y swyddog cludiant, a rhoddodd y manylion iddynt hefyd. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gyfres o gwestiynau i'r apelwyr a'r swyddogion a ymatebodd yn
unol â hynny. Nodwyd
Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth
Cymru a Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe yn yr
atodiad i'r adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn. Penderfynwyd 1)
caniatáu'r
apêl ar ran y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad, oherwydd yr hyn yr oedd y
pwyllgor yn ei ystyried yn amgylchiadau eithriadol, ac y dylai’r disgybl gael
cludiant am ddim i Ysgol Tre-gŵyr. 2)
y bydd
y cynrychiolydd cyfreithiol yn gwneud argymhellion i'r Gyfarwyddiaeth Addysg ar
ran y pwyllgor ynghylch y materion a godwyd yn ystod yr apêl hon a'r apêl
flaenorol. |