Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

19.

Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe.

 

20.

Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. pdf eicon PDF 794 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru.

 

21.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

22.

Apêl Cludiant i'r Ysgol

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor apêl gan riant DR.

 

Cyflwynwyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â chymhwysedd am gludiant am ddim o'i gyfeiriad cartref i Goleg Gŵyr Abertawe.

 

Cyflwynodd rhiant DR sylwadau llafar i'r Pwyllgor i gefnogi ei chyflwyniadau ysgrifenedig ac amlinellodd amgylchiadau penodol ei hapêl a oedd yn ymwneud ag anabledd ac anghenion addysgol arbennig y plentyn a'i hamgylchiadau teuluol presennol.

 

Gwnaeth swyddogion yr adrannau Addysg a Chludiant sylwadau llafar hefyd i gefnogi eu cyflwyniadau ysgrifenedig.

 

Amlinellwyd y math o gludiant am ddim y mae'r awdurdod yn ei ddarparu i fyfyrwyr coleg a'i brif wahaniaethau i ddarpariaeth cludiant i'r ysgol (bysiau mini nid tacsis) a manylwyd arnynt gan y swyddog cludiant i'r pwyllgor.

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a swyddogion, a ymatebodd yn unol â hynny.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn.

 

Penderfynwyd  

1)    Caniatáu'r apêl ar ran DR a darparu cludiant am ddim i DR i Goleg Gŵyr yn amodol ar adolygiad ar ddiwedd y flwyddyn academaidd gyfredol.

2)    Bod y rhiant yn cael ei annog i wneud cais am docyn bws rhatach ar gyfer DR wrth symud ymlaen.