Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2020-2021. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd D W W Thomas yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. Bu'r Cynghorydd D W W
Thomas (Cadeirydd) yn llywyddu |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2020-2021. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd J E Burtonshaw fel Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn
ddinesig 2020-2021. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. PDF 121 KB Cofnodion: Nodwyd Polisi
Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe. |
|
Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. PDF 794 KB Cofnodion: Nodwyd
Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth
Cymru. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel
y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol. Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor apêl gan riant ESS. Cyflwynwyd yr
apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â’r hawl am gludiant o'r
cartref i'r ysgol am ddim o'i gyfeiriad cartref i Ysgol Gyfun Llandeilo
Ferwallt. Gwnaeth rhiant
ESS sylwadau llafar i'r Pwyllgor i gefnogi’i chyflwyniadau ysgrifenedig. Gwnaeth
swyddogion yr adrannau Addysg a Chludiant sylwadau llafar hefyd i gefnogi’u
cyflwyniadau ysgrifenedig. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a’r swyddogion, ac ymatebon
nhw’n unol â hynny. Ystyriodd y
Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn. Penderfynwyd
gwrthod yr apêl ar ran
ESS. |