Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-2022.

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd D W W Thomas.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd D W W Thomas yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021-2022.

 

(Bu'r Cynghorydd D W W Thomas yn llywyddu)

 

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2020-2021.

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd J A Hale.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd J A Hale yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn Ddinesig 2021-2022.

3.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

4.

Cofnodion: pdf eicon PDF 206 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 26 Ionawr fel cofnod cywir.

5.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Penderfyniad:

Penderfynwyd gwahardd y Cyhoedd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

6.

Honiad o Fwlio ac Aflonyddu.

Penderfyniad:

Penderfynwyd: -

1) Cyfeirio'r mater at Unigolyn Annibynnol Dynodedig (DIP) er mwyn gallu cynnal ymchwiliad i'r honiadau o fwlio ac aflonyddu a wnaed gan yr achwynydd;

2) Yn ystod cyfnod yr ymchwiliad, ni fyddai ataliad ffurfiol yn digwydd yn amodol ar asesiad risg boddhaol i sicrhau bod buddiannau'r ddau barti yn cael eu gwarchod.

Cofnodion:

Cyflwynodd Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol adroddiad i'r Pwyllgor ar honiad o fwlio ac aflonyddu.  Darparwyd sylwadau ysgrifenedig yn yr adroddiad gan y Swyddogion dan sylw.

 

Cafodd y Pwyllgor sylwadau llafar gan y Swyddog dan sylw, gyda'i gynrychiolydd Undeb llafur, Chris Cooze, Unsain.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:   -

 

1)    Dylid cyfeirio'r mater at Berson Annibynnol Dynodedig er mwyn gallu cynnal ymchwiliad i'r honiadau o fwlio ac aflonyddu a wnaed gan yr achwynydd;

2)    Yn ystod cyfnod yr ymchwiliad, ni fyddai gwaharddiad ffurfiol yn digwydd yn amodol ar asesiad risg boddhaol i sicrhau bod buddiannau'r ddau barti'n cael eu diogelu.