Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Service - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

30.

Cofnodion. pdf eicon PDF 209 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 18, 20 a 24 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

 

31.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda.

(Sesiwn Gaeëdig)

 

32.

Apêl Cludiant i'r Ysgol. pdf eicon PDF 7 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor apêl gan riant y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am gludiant am ddim o'i gyfeiriad cartref i ysgol yn Sir Gâr.

 

Cyflwynodd mam-gu/tad-cu y disgybl sylwadau llafar i'r Pwyllgor i gefnogi'r cyflwyniadau ysgrifenedig ac amlinellodd amgylchiadau penodol eu hapêl a oedd yn ymwneud â sefyllfa'r plentyn a'r teulu a materion a oedd yn ymwneud â'r adeg pan symudodd y teulu dŷ ym mis Ionawr 2020.

 

Dywedasant eu bod yn barod i fynd â'r plentyn i'r man gadael a thalu am gostau'r cludiant pe gellid sicrhau lle ar y bws ysgol cywir.

 

Gwnaeth swyddogion yr adrannau Addysg a Chludiant sylwadau llafar hefyd i gefnogi’u cyflwyniadau ysgrifenedig, gan fanylu ar y polisïau presennol sy'n ymwneud â chludiant i ysgolion y dalgylch, a'r sefyllfa sy'n gysylltiedig â COVID yn y ddau awdurdod mewn perthynas ag atal cynnig seddi sbâr ar gludiant i'r ysgol.

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gyfres o gwestiynau i'r apelwyr a'r swyddogion a ymatebodd yn unol â hynny.

 

Nodwyd Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru a Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn.

 

PENDERFYNWYD

1)    gwrthod yr apêl ar ran y disgybl a amlinellir yn yr adroddiad.

2)    dweud wrth y rhieni, o ystyried amgylchiadau'r achos, y dylent hefyd ystyried gwneud apêl i Gyngor Sir Caerfyrddin.