Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. PDF 121 KB Cofnodion: Penderfynwyd nodi
Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe. |
|
Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. PDF 794 KB Cofnodion: Penderfynwyd nodi
Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth
Cymru. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel
y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor apêl gan riant DR. Cyflwynwyd yr
apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â chymhwysedd am gludiant am
ddim o'i gyfeiriad cartref i Goleg Gŵyr Abertawe. Cyflwynodd rhiant
DR sylwadau llafar i'r Pwyllgor i gefnogi ei chyflwyniadau ysgrifenedig ac
amlinellodd amgylchiadau penodol ei hapêl a oedd yn ymwneud ag anabledd ac
anghenion addysgol arbennig y plentyn a'i hamgylchiadau teuluol presennol. Gwnaeth
swyddogion yr adrannau Addysg a Chludiant sylwadau llafar hefyd i gefnogi eu
cyflwyniadau ysgrifenedig. Amlinellwyd y
math o gludiant am ddim y mae'r awdurdod yn ei ddarparu i fyfyrwyr coleg a'i
brif wahaniaethau i ddarpariaeth cludiant i'r ysgol (bysiau mini nid tacsis) a
manylwyd arnynt gan y swyddog cludiant i'r pwyllgor. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a swyddogion, a ymatebodd yn
unol â hynny. Ystyriodd y
Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn. Penderfynwyd 1)
Caniatáu'r
apêl ar ran DR a darparu cludiant am ddim i DR i Goleg Gŵyr yn amodol ar
adolygiad ar ddiwedd y flwyddyn academaidd gyfredol. 2)
Bod y
rhiant yn cael ei annog i wneud cais am docyn bws rhatach ar gyfer DR wrth symud
ymlaen. |