Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd D W W Thomas yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019-2020. Bu'r Cynghorydd D W W
Thomas (Cadeirydd) yn llywyddu |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd J E Burtonshaw fel
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau a
Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir. |
|
Trefn trafodion y gwrandawiad apêl. PDF 46 KB Cofnodion: Penderfynwyd nodi gweithdrefn apelio yn erbyn cludiant yr ysgol. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. PDF 121 KB Cofnodion: Penderfynwyd nodi Polisi Cludiant o'r Cartref
i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe. |
|
Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. PDF 794 KB Cofnodion: Penderfynwyd
nodi Darpariaeth Statudol
ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion
yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth
benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes
lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar
gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol. Cofnodion: Clywodd y
pwyllgor apêl gan riant a mam-gu neu dad-cu CF.
Cyflwynwyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am
gludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim o'i gyfeiriad cartref i Ysgol Gyfun
Llandeilo Ferwallt. Penderfynwyd gwrthod yr apêl ar ran CF. |