Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd D. W. W.
Thomas yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019. Bu'r Cynghorydd D W W
Thomas (Cadeirydd) yn llywyddu |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd J E Burtonshaw yn
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau
a gynhaliwyd ar 31 Awst 2017 fel cofnod cywir. |
|
Trefn trafodion y gwrandawiad apêl. PDF 46 KB Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau
a gynhaliwyd ar 31 Awst 2017 fel cofnod cywir. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. PDF 121 KB Cofnodion: Penderfynwyd nodi Polisi Cludiant o'r Cartref
i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe. |
|
Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. PDF 794 KB Cofnodion: Penderfynwyd
nodi Darpariaeth Statudol
ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru. |
|
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. PDF 313 KB Cofnodion: Penderfynwyd
nodi Mesur Teithio gan
Ddysgwyr (Cymru) 2008. |
|
Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru. PDF 331 KB Cofnodion: Penderfynwyd nodi
Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail
ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth
benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes
lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar
gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol. Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor apêl gan y rhiant PH-G.
Cyflwynwyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r
hawl am gludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim o'i gyfeiriad cartref i Ysgol
Gyfun Llandeilo Ferwallt. Penderfynwyd gwrthod apêl PH-G. |