Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Penodi Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd D W W Thomas yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018.

 

Bu’r Cynghorydd D W W Thomas (Cadeirydd) Yn Llywyddu

18.

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd J A Hale yn Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018.

 

19.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

20.

Cofnodion: pdf eicon PDF 60 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2016 fel cofnod cywir.

 

 

21.

Trefn trafodion y gwrandawiad apêl. pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cofnodi Trefn Trafodion y Gwrandawiad Apêl.

 

22.

Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe.

 

23.

Llywodraeth Cymru - Cludiant Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. pdf eicon PDF 792 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru.

 

24.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau canlynol ar yr agenda.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

25.

Apêl Cludiant i'r Ysgol.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r cyfarfod tan 10.30am.

 

Clywodd y pwyllgor apêl ar y cyd gan y rhieni JE ac AF. Cyflwynwyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr adran i ddynodi'r llwybr cerdded i'r ysgol rhwng Pontlliw ac Ysgol Gyfun Pontarddulais fel 'ar gael'.

 

Penderfynwyd Gwrthod apêl JE ac AF.