Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd J A Hale -
agenda'n gyffredinol - mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg (Arlwyo) ac
rwy'n aelod o UNSAIN – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: CYMERADWYWYD cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 8
Medi 2015 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail
ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth
benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes
lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar
gyfer yr eitemau canlynol ar yr agenda. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Honiad o Fwlio ac Aflonyddu. Cofnodion: Derbyniodd y pwyllgor sylwadau gan y swyddog dan sylw. PENDERFYNWYD y dylai'r cyfarfod gael ei ohirio tan 12 Mai 2016. Daeth y cyfarfod i ben am 10.35 am. Adalwyd y Pwyllgor
Apeliadau a Dyfarniadau ddydd Iau, 12 Mai am 9.30 am. Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan y Cynghorydd J. A. Hale. Derbyniodd y pwyllgor mwy o sylwadau gan y swyddog dan sylw, yr oedd ganddo gwmni ar yr achlysur hwn. PENDERFYNWYD: a) Y dylai'r mater gael ei gyfeirio i'r
Person Annibynnol Dynodedig (DIP) er mwyn gallu ymgymryd ag ymchwiliad
cynhwysfawr; b) Yn ystod yr ymchwiliad, ni fyddai gwaharddiad ffurfiol. |