Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Apeliadau a Gwobrau a gynhaliwyd ar 16 Awst 2022 a’u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.(Gwybodaeth) PDF 121 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Nodwyd y polisi Cludiant
o’r Cartref i’r Ysgol. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Nodwyd Teithio
gan Ddysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Llywodraeth
Cymru. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitem(au) busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol. Penderfyniad: Apêl wedi'i chadarnhau. Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor apêl gan riant y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyflwynwyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â chymhwysedd am gludiant am ddim o'r cyfeiriad cartref i Ysgol Gyfun yr Esgob Gore. Yna cyflwynodd rhieni’r disgybl a'u cynrychiolydd cyfreithiol sylwadau llafar i’r Pwyllgor i gefnogi eu cyflwyniadau ysgrifenedig ac amlinellwyd amgylchiadau penodol eu hapêl mewn perthynas â’r plentyn a’i hamgylchiadau a’i hamodau personol. Roedd swyddogion o'r adrannau Addysg a Chludiant hefyd wedi rhoi sylwadau llafar i gefnogi eu cyflwyniadau ysgrifenedig. Amlinellwyd y materion ynghylch y polisi a oedd yn ymwneud â'r pellter o'r eiddo i'r ysgol, y llwybrau cerdded/bws sydd ar gael ac argaeledd rhieni i gludo'r plentyn i'r ysgol a manylwyd arnynt gan y swyddogion i'r pwyllgor. Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Ystyriodd y Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig a gyflwynwyd yn llawn. Penderfynwyd gwrthod yr apêl ar ran y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad gan nad oedd y pwyllgor yn teimlo bod amgylchiadau eithriadol i'r achos. |