Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. PDF 121 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd y polisi
Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol. |
|
Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. PDF 794 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd Teithio
gan Ddysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Llywodraeth
Cymru. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y
sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) busnes a
nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol. Penderfyniad: Apêl wedi’i thynnu yn ôl Cofnodion: Dywedodd Cath
Watkins, yn dilyn trafodaethau diweddar ac eglurhad o weithdrefnau penodol a
materion gweithredol gyda'r rhieni, dyrannwyd lle ar gyfer y flwyddyn ysgol
nesaf ar gludiant ysgol brif ffrwd ac felly, tynnwyd yr apêl yn ôl. Dywedodd y byddai
swyddogion o'r tîm cludiant yn trefnu man gollwng/codi addas ar gyfer y plentyn
yn fuan ar y cyd â'r rhieni. |