Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

27.

Cofnodion: pdf eicon PDF 209 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021 ac 16 Tachwedd 2021 fel cofnodion cywir.

 

28.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau canlynol ar yr agenda.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

29.

Ystyried Achwyniad Posibl.

Cofnodion:

Cyflwynodd Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad am achwyniad posib i'r Pwyllgor.  Darparwyd sylwadau ysgrifenedig am yr achwyniad posib ac ymateb y swyddog dan sylw yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Penderfynwyd bod yr wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor y tu allan i bolisïau'r cyngor a chylch gwaith y Prif Swyddogion a Rheolau Gweithdrefnau Disgyblu'r Prif Swyddogion.