Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

22.

Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. pdf eicon PDF 121 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Nodwyd Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe.

 

23.

Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. pdf eicon PDF 794 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Nodwyd Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru.

 

24.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

25.

Apêl Cludiant i'r Ysgol.

Penderfyniad:

Gwrthodwyd yr Apêl

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor apêl gan riant y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r cymhwyster ar gyfer cludiant am ddim o'r cyfeiriad cartref i YGG Gŵyr.

 

Yna gwnaeth rhiant y disgybl sylwadau llafar i'r Pwyllgor i gefnogi ei chyflwyniadau ysgrifenedig ac amlinellodd amgylchiadau penodol ei hapêl mewn perthynas â sefyllfa bresennol y teulu o ran y disgybl a'i chwaer.

 

Roedd swyddogion o'r adrannau Addysg a Chludiant hefyd wedi rhoi sylwadau llafar i gefnogi’u cyflwyniadau ysgrifenedig.

 

Amlinellodd y swyddog cludiant y problemau ynghylch dalgylchoedd newidiol yr ysgol y gwnaed cais amdanynt i'r pwyllgor.

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn.

 

Penderfynwyd gwrthod yr apêl ar ran y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad gan nad oedd y pwyllgor yn teimlo bod amgylchiadau eithriadol i'r achos;