Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

 Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 134 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 fel cofnod cywir.

 

17.

Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. pdf eicon PDF 121 KB

Penderfyniad:

 

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Nodwyd Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe.

 

18.

Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. pdf eicon PDF 794 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Nodwyd Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru.

 

19.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

20.

Apêl Cludiant i'r Ysgol.

Penderfyniad:

Gwrthodwyd yr apêl.

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor apêl gan riant y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am gludiant am ddim o'i gyfeiriad cartref i YGG Gŵyr.

 

Yna gwnaeth rhiant y disgybl sylwadau ar lafar i'r Pwyllgor i gefnogi ei chyflwyniadau ysgrifenedig ac amlinellodd amgylchiadau penodol ei hapêl mewn perthynas â sefyllfa bresennol y teulu o ran y disgybl a'i chwaer.

 

Roedd swyddogion o'r adrannau Addysg a Chludiant hefyd wedi rhoi sylwadau ar lafar i gefnogi eu cyflwyniadau ysgrifenedig.

 

Amlinellodd y swyddog cludiant y problemau ynghylch dalgylchoedd newidiol yr ysgol y gwnaed cais amdanynt i'r pwyllgor.

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a'r swyddogion a ymatebodd yn unol â hynny.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn.

 

Penderfynwyd gwrthod yr apêl ar ran y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad gan nad oedd y pwyllgor yn teimlo bod amgylchiadau eithriadol i'r achos.