Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

12.

Cofnodion. pdf eicon PDF 204 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 9 Medi 2021 fel cofnod cywir.

 

13.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

 

14.

Gwrandawiad Achwyniad.

Penderfyniad:

Achwynwyd Cwyn

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad o'r achwyniad i'r Pwyllgor.  Darparwyd sylwadau ysgrifenedig o'r achwyniad ac ymateb y swyddog dan sylw yn yr adroddiad a gylchredwyd.

 

Derbyniodd y Pwyllgor sylwadau llafar gan y Swyddog dan sylw i gefnogi ei sylwadau a gyflwynwyd yn erbyn yr achwyniad honedig.

 

Penderfynwyd gwrthod y mater a dyma ddiwedd yr honiad.